Cyfeirnod y Swydd: CSHC00089W3MTE
Lleoliad: Canolfan y Dderwen, Y Rhyl
Cyflog: Gradd 4 £19,650 – £20,852 yr flwyddyn (dyfarniad cyflog 2022 i ddod
Oriau: 37 awr yr wythnos
Swydd parhāol
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
The ability to communicate in Welsh is essential for this position.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried.
Yn sgil yr estyniad cyffrous, mae nifer o swyddi ar gael o fewn y Tîm Datblygu Gofal Plant. Mae Little Acorns yn ddarpariaeth gofal plant perfformiad uchel ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr a fydd yn gallu cefnogi datblygiad pellach y gwasanaeth rhagorol hwn.
Bydd yr ymgeiswyr delfrydol yn frwd am ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, yn gallu defnyddio eu menter eu hunain, yn flaengar ac yn arloesol.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu gweithio mewn amgylchedd sy’n ymfalchïo mewn gwella cyfleoedd addysg a chwarae cyn-ysgol a chynnig darpariaeth o ansawdd uchel i bob plentyn yn ein gofal.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd hon, ffoniwch Gemma Jones ar 01824 706905.
I gysylltu â'r cyflogwr, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: [javascript protected email address]