fbpx
Skip to main content

Gofal yn Galw

Ydych chi’n mwynhau gweld pobl yn manteisio i’r eithaf ar bob dydd ac yn cyflawni’r hyn sydd ei eisiau arnynt mewn bywyd? Dyna yw bwriad gyrfa mewn gofal!
Gallai olygu gweithio gyda

  • babanod a phlant ifanc
  • plant a phobl ifanc
  • oedolion pan fydd angen help ychwanegol arnynt
  • mewn gwirionedd, pobl o bob oedran – eu helpu i wireddu eu breuddwydion!

Rhowch gynnig ar ein her fideo ryngweithiol ’Gofal yn Galw: Gyrfa i CHI’ i weld sut olwg sydd ar yrfa mewn gofal. Ar ôl i chi gwblhau dwy o’r heriau, byddwch chi’n derbyn proffil personol sy’n dweud wrthych a oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i weithio mewn gofal. Peidiwch ag anghofio rhannu eich canlyniadau wrth wneud cais am swyddi!