Angen 550 mwy o ofalwyr maeth ar draws Cymru yn 2020
Mae’r Rhwydwaith Maethu wedi amcangyfrif y bydd angen 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i gadw’n gydwastad gyda’r galw eang.
I gyflawni hyn, heddiw (1 Ionawr 2020) mae wyth awdurdod lleol ledled Cymru wedi lansio #20Rheswm, ymgyrch i annog pobl o fewn eu hardal leol i ystyried maethu.
Mae’r ymgyrch yn defnyddio gofalwyr maeth go iawn a’u cymhellion am faethu i hysbysu ac ysbrydoli mwy o deuluoedd i ystyried gofalu am blentyn neu berson ifanc.
Mae’r 20 rheswm i faethu yn amrywio o wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn drwy roi ymdeimlad o gariad, perthyn a sicrwydd iddynt; i fod yn rhan o adeiladu dyfodol cadarnhaol a helpu i gadw plentyn yn eu hardal leol fel y gallant aros yn yr ysgol ac yn agos at eu ffrindiau.
Mae angen pob math o ofalwyr maeth ond yn neilltuol rai a fyddai’n ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau, gofalwyr therapiwtig, gofalwyr seibiant, gofalwyr argyfwng, grwpiau siblingiaid a phlant gydag anghenion ychwanegol.
Mae Tammy, 36, yn un o’r gofalwyr maeth sy’n cefnogi’r ymgyrch. Bu’n ofalwr maeth am bron saith mlynedd. Ar ôl blynyddoedd o geisio cael eu plentyn eu hunain, dewisodd Tammy a’i phartner gymryd dull gweithredu gwahanol drwy faethu.
Dywedodd Tammy: “Sylweddolais fod cynifer o blant angen cartref cariadus ac roedd gen i gymaint o gariad i’w roi i blentyn felly roedd yn gwneud synnwyr mai dyma sut y gallwn adeiladu ein teulu.
“Mae gen i gwlwm gwirioneddol agos gyda’r holl blant rwyf wedi eu maethu. Mae un o’n plant maeth bellach yn 17 oed ac nid yw’n byw gyda ni erbyn hyn ond mae’n dal i ddod draw am ginio dydd Sul bob wythnos. Mae ein plant maeth hirdymor presennol hyd yn oed yn ein galw yn mam a dad, ac nid oes teimlad gwell na hynny mewn gwirionedd.”
Os ydych wedi bod yn ystyried maethu neu yr hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.
Dyma #20Rheswm am faethu yn 2020:
- Gallwch blentyn a gafodd orffennol anodd
- Byddwch yn helpu i adeiladu dyfodol cadarnhaol
- Gallwch helpu plentyn i gyrraedd ei botensial llawn
- Mae maethu yn rhyfeddol a gwerth chweil
- Cwrdd â phobl ofalgar eraill – yn union fel chi.
- Gallwch wneud gwahaniaeth yn lleol
- Dewis pa fath o faethu sy’n iawn i chi.
- Help i gadw plentyn yn eu hysgol
- Datblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau
- Byddwch yn gwneud gwahaniaeth sy’n parhau am oes
- Mae’n ffordd wahanol i dyfu eich teulu
- Dod yn rhan o’n cymuned faethu
- Byddwch yn fodel rôl cadarnhaol
- Mae caredigrwydd yn teimlo’n dda
- Mae gan blant a phobl ifanc angen brys am gymorth
- Byddwch yn helpu i feithrin hyder plentyn
- Gallwch newid gyrfa
- Byddwch yn rhoi cyfle mewn bywyd i blentyn
- Mae maethu yn rhoi safbwyntiau newydd i chi
- Byddwch yn rhoi ymdeimlad o berthyn i blentyn