Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

26 Gorffennaf 2021

Astudiaeth hyblyg yn hwb i yrfaoedd mewn gwaith cymdeithasol

Mae’r Brifysgol Agored wedi ymuno â chyflogwyr ledled Cymru i gynnig llwybr seiliedig ar waith i wneud gradd mewn gwaith cymdeithasol.

Fel myfyriwr yn y Brifysgol Agored, gallwch astudio ar gyflymder sy’n addas i chi, gan ganiatáu i chi gydbwyso’r cwrs â’ch cyfrifoldebau eraill. Ar ôl i chi raddio, bydd yr hawl gennych i wneud cais i gofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwys gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae llawer o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol y Brifysgol Agored wedi astudio am Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn gyntaf. Mae myfyrwyr sy’n gweithio tuag at y dystysgrif yn edrych ar sut mae gofal cymdeithasol yn cael ei drefnu yng Nghymru a’r DU, a’r gwerthoedd, y ddeddfwriaeth a’r damcaniaethau sy’n sail i arferion gofal cymdeithasol cyfredol.

Rachel Vale, Gweithiwr Cymdeithasol

Fel mam sengl a chymwysterau TGAU yn unig, doedd Rachel Vale ddim yn meddwl bod astudio yn y brifysgol yn opsiwn. Ond yn 2015, gwnaeth gais i astudio gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru drwy ei swydd gyda Chyngor Sir Powys, a dechreuodd y cwrs flwyddyn yn ddiweddarach.

Rachel Vale, BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol

“Fe wnes i raddio o’r Brifysgol Agored ym mis Hydref 2020 a chefais gynnig swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda’r cyngor ddeufis cyn hynny, yn amodol ar gymhwyso,” esbonia Rachel. “Cyn gynted ag y cafodd fy nghofrestriad ei gadarnhau, fe wnes i ddechrau yn fy swydd newydd.”

Ar ôl cael ysgariad, roedd Rachel eisiau newid ei bywyd er mwyn ei theulu. A diolch i natur hyblyg y radd a’r arweiniad parhaus gan ei thiwtoriaid, roedd hi’n gallu cydbwyso ei hastudiaethau â bywyd teuluol prysur – a chyflawni pethau nad oedd hi erioed wedi meddwl eu bod yn bosibl.

“Doeddwn i ddim yn arbennig o hoff o’r ysgol,” meddai Rachel. “Fe wnes i adael yn 16 oed gyda graddau TGAU cyffredin. Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n mynd i’r brifysgol. Doeddwn i ddim yn meddwl bod gwneud hynny’n opsiwn gan nad oeddwn i’n ystyried fy hun yn berson academaidd. Fi yw’r cyntaf yn fy nheulu agos i fynd i’r brifysgol felly mae’n rhywbeth i ymfalchïo ynddo.”

“Roedd y deunyddiau addysgu yn wych,” meddai Rachel. “Mae’n gallu bod braidd yn frawychus pan fyddwch chi’n mewngofnodi am y tro cyntaf ac yn gweld popeth ar-lein, ond mae’r cyfan mor hygyrch. Roedd un o fy nhiwtoriaid yn anhygoel. Unrhyw bryd byddwn i’n rhoi’r argraff fy mod i mewn panig ar e-bost, byddai’n rhoi galwad i mi ar unwaith i drafod fy llwyth gwaith ac unrhyw drafferthion roeddwn i’n eu hwynebu. Doeddwn i ddim yn teimlo fel rhif neu fyfyriwr cyffredin – roedd hi’n rhoi’r argraff ei bod hi’n malio am fy nghynnydd.”

Nia Cuffin, Gweithiwr Cymdeithasol

Nia Cuffin, 43, o Ynys Môn, un arall o raddedigion y Brifysgol Agored sydd wedi dechrau gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol yn ddiweddar.

Nia Cuffin, Gweithiwr Cymdeithasol
Nia Cuffin, Gweithiwr Cymdeithasol

Mae Nia Cuffin, 43, o Ynys Môn, yn un arall o raddedigion y Brifysgol Agored sydd wedi dechrau gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol yn ddiweddar.

Chwe blynedd yn ôl, gwnaeth Nia gais i ddilyn cwrs gradd mewn gwaith cymdeithasol gyda’r Brifysgol Agored. Roedd hyblygrwydd y cwrs yn caniatáu iddi gydbwyso ei hastudiaethau wrth ofalu am ei merch – ac o’i phrofiad hi, byddai’n ei argymell i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu gyrfa.

“Mi wnes i ddechrau fy ngyrfa fel Cynorthwyydd Dosbarth, yn cefnogi disgyblion Blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd. Fy rôl i oedd helpu plant gydag anghenion ymddygiadol neu ychwanegol, a oedd o bosib angen cymorth ychwanegol, i drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd,” meddai.

“Roedd fy ngradd yn hanfodol o ran datblygu fy ngyrfa i ddod yn Weithiwr Cymdeithasol gyda Gwasanaethau Plant Ynys Môn. Er bod heriau ynghlwm wrth yr yrfa hon, mae’n swydd sy’n rhoi llawer o foddhad. Dw i’n falch o fod wedi gwneud hyn; roeddwn i’n gwybod y gallwn i. Roeddwn i’n barod i fod yn Weithiwr Cymdeithasol.” 

Gan gyfuno modiwlau a addysgir a lleoliadau seiliedig ar waith, mae gradd gwaith cymdeithasol y Brifysgol Agored yn helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gefnogi rhai o bobl fwyaf bregus cymdeithas i gyflawni eu potensial. Mae’r cwrs, sy’n trafod pynciau fel cyfiawnder ieuenctid, gofal cymunedol a chyfraith gwaith cymdeithasol, yn eu helpu i ddefnyddio’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn eu harfer eu hunain fel Gweithwyr Cymdeithasol y dyfodol

“Dw i’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf,” meddai Nia, “felly mi wnes i weithio’n agos gyda’r tiwtor Cymraeg, a oedd yn fy annog i ysgrifennu pob dim yn Gymraeg. Roedd hi bob amser yn gefnogol iawn. Yn wir, roedd pob un o’r tiwtoriaid yn fy annog. Roedden nhw’n gallu cynnig beirniadaeth adeiladol a oedd o gymorth mawr i mi o ran datblygu traethodau ac aseiniadau.”

“Mae’r Brifysgol Agored wedi agor fy llygaid i’r byd academaidd,” meddai Nia. “Mae’n rhywbeth y byddwn i wir yn ei argymell oherwydd roedd y ffordd y cafodd y cwrs ei gyflwyno yn gweddu’n arbennig i fy ffordd o fyw. Gobeithio y bydda i’n ôl yn astudio ar gyfer gradd meistr yn fuan!”

Wedi’i chymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru, y dystysgrif yw’r cymhwyster ar gyfer Ymarferwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ac ystod eang o rolau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n cyfateb i’r traean cyntaf o radd anrhydedd ac mae’n darparu llwybr i ymuno â’r cwrs gradd mewn gwaith cymdeithasol yng Ngham 2, drwy gais a chyfweliad.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol er mwyn astudio’r Dystysgrif, er bod angen i ymgeiswyr feddu ar rywfaint o brofiad cyfredol o weithio neu wirfoddoli mewn lleoliad gofal cymdeithasol. Mae ceisiadau’n dal i gael eu derbyn ar gyfer dechrau’r Dystysgrif ym mis Hydref, gyda 9 Medi 2021 fel dyddiad cau.

Dysgwch fwy am y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.