Billy yr Archarwr: Adnodd i athrawon
Llyfr plant
Yn 2018 bu disgyblion ysgolion cynradd yng Ngwent yn helpu i gynhyrchu llyfr dwyieithog gyda’r nod o ysbrydoli plant i fod yn weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y dyfodol. Gweithiodd disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Ffordd Blenheim gyda Thîm Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Petra Publishing i gynhyrchu Billy yr Archarwr.
Drwy adrodd stori Billy, mae’r llyfr yn cyflwyno rolau pwysig pobl sy’n darparu gofal a chymorth yn ein hysbytai a’n cymunedau. Y nod yw ennyn diddordeb plant iau mewn gyrfa gwerth chweil y sector.
Mae copïau o Billy yr Archarwr ar gael i bob ysgol gynradd, llyfrgell a meddyg teulu yng Ngwent.
Mae llyfrau ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion cynradd yng Nghymru (tra bod stoc ar gael) trwy e-bostio: Chris.Hooper@Torfaen.gov.uk
Hefyd, mae modd prynu llyfrau’n uniongyrchol o Petra Publishing, menter gymdeithasol nid er elw, trwy wneud cais prynu yn yr adran contact ar wefan y cwmni: www.PetraPublishing.org
Adnodd i athrawon
Diolch i gymorth Prifysgol De Cymru, mae adnodd i athrawon wedi’i ddatblygu sy’n cynorthwyo disgyblion cyfnod allweddol 2 i drafod ac archwilio rhai o’r themâu allweddol sy’n codi yn y stori.
Mae sawl animeiddiad dwyieithog sy’n cynnwys cymeriadau allweddol y llyfr wedi’u datblygu er mwyn hyrwyddo trafodaeth ehangach am saith thema allweddol:
- dyheadau
- caredigrwydd a chyfathrebu
- gofalu a gwneud penderfyniadau
- sgiliau argyfwng
- bod yn weithiwr proffesiynol
- rolau eraill yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd adnodd i athrawon yn cael ei gyhoeddi ar Hwb, y platfform digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru, ddiwedd mis Awst fel rhan o offer ac adnoddau di-dâl Hwb.
Mae’r holl bartneriaid sy’n rhan o’r prosiect hwn yn gobeithio y bydd llyfr Billy yr Archarwr a’r adnodd cysylltiedig i athrawon yn ysbrydoli plant i fod yn archarwyr y dyfodol, fel Billy.