Dysgwch fwy am Dan Luffman
Dan Luffman
Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Dydd
Caerdydd
Mae Dan yn gweithio’n bennaf gyda phobl â gofynion cymorth cymhleth a/neu ymddygiad a allai fod yn heriol. Mae’n dwlu ar chwaraeon a ffitrwydd, felly mae’n cael ei baru â phobl sydd â diddordebau tebyg.
Cwestiwn 1: Wyt ti’n meddwl bod angen mwy o ddynion yn gweithio yn y sector?
“Yn sicr. Do’n i ddim yn gwybod bod prinder, ond dwi wedi bod yma ers 12 mlynedd ac roedd lot mwy o ferched ar y dechrau. Dwi’n credu bod llawer o ddynion mas ‘na a allai wneud cyfraniad mawr yn y swydd hon.”
Cwestiwn 2: Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am y bobl rwyt ti’n eu cefnogi?
“Dwi wir yn mwynhau ein diwrnodau mas. Ry’ ni’n mynd i’r gampfa gan fod y ddau ohonom ni’n hoffi cadw’n heini - rwy’n helpu gyda’r pwysau a’r rhedeg, gan roi cyngor hefyd.”
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.