Dysgwch fwy am Darren Mutter
Darren Mutter
Pennaeth Gwasanaethau Plant
Ar ôl hyfforddi fel gweithiwr cymdeithasol bron i 20 mlynedd yn ôl, mae Darren bellach yn gweithio fel uwch reolwr gwasanaethau plant i Gyngor Sir Penfro. Gall ei gyfrifoldebau o ddydd i ddydd fod yn heriol ond mae’n gwybod ei fod yn gwneud gwahaniaeth drwy wasanaethu pobl yn ei gymuned.
Cwestiwn 1: Pam wnest ti ddewis gweithio gyda phlant?
“Ro’n i bob amser yn bwriadu gweithio mewn gwasanaethau oedolion, ond fe wnes i leoliad gyda’r gwasanaethau plant a gweld ‘mod i wrth fy modd yn gweithio gyda phlant a’u teuluoedd, felly fe arhoses i.”
Cwestiwn 2: Beth yw’r agwedd fwyaf heriol ar dy swydd?
“Mae gwneud penderfyniadau ar fy lefel i yn anodd oherwydd maent yn newid cyfeiriad bywyd person ifanc. Ond mae’n werth chweil pan welwch y teuluoedd yn llwyddo a’r plant yn datblygu mewn cartrefi diogel sydd â threfniadau gofal diogel.”
Cwestiwn 3: Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried gofal cymdeithasol?
“Rhowch gynnig arni. Os ydych chi am weld pobl yn cael eu trin yn gyfartal, yn cael eu cefnogi a’u grymuso i gyflawni pethau gwell, i wella eu bywydau, gallai gofal cymdeithasol fod yn berffaith i chi.”
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.