Dysgwch fwy am Karen Llewellyn

Karen Llewellyn
Darlithydd yn y Blynyddoedd Cynnar
Ar ôl gweithio fel gwarchodwr plant am 13 mlynedd, penderfynodd Karen ddefnyddio ei gwybodaeth a’i dealltwriaeth i symud ymlaen a dod yn ddarlithydd yng Ngholeg Gŵyr. Mae hi’n darlithio mewn Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol i helpu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol, gofalwyr a gwarchodwyr plant.
Cwestiwn 1: A yw dy rôl yn hyblyg?
“Ydy wir. Ro’n i’n gweithio’n rhan amser am saith mlynedd er mwyn gallu magu fy nheulu. Dwi wedi bod yn gweithio’n llawn amser ers Medi 2018.”
Cwestiwn 2: Pa ran o’r swydd sydd fwyaf gwerth chweil?
“Dwi’n profi gwefr enfawr pan mae’r myfyrwyr yn cyflawni eu hamcanion.”
Cwestiwn 3: Beth sy’n gwneud Darlithydd da?
“Profiad. Mae gen i brofiad uniongyrchol o weithio mewn gofal a’r blynyddoedd cynnar, felly maen nhw’n ymddiried ynof i.”
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.