Dysgwch fwy am Gareth Smitham
Gareth Smitham
Hyfforddwr Cyfrifiaduron
Abertawe
Mae rôl Gareth yn ymwneud â helpu pobl i fagu hyder a chyflawni unrhyw nodau sydd ganddynt yn y maes TG a chyfrifiaduron. Arferai Gareth weithio mewn Peirianneg, ond mae bellach yn Hyfforddwr Cyfrifiaduron yng Nghanolfan Adnoddau Bro Abertawe sy’n cynnig cefnogaeth i oedolion ag anableddau corfforol.
Cwestiwn 1: Sut ges di dy swydd?
“Fe ges i le yn y sector drwy lwc ar rôl colli fy swydd fel peiriannydd. Ar ôl cwpwl o fisoedd yn y rôl, roedd y bobl ro’n i’n gweithio gyda nhw wedi fy argyhoeddi’n llwyr ‘mod i yn y lle iawn, a dwi dal yma 26 mlynedd yn ddiweddarach.”
Cwestiwn 2: I ti, beth yw’r rhan fwyaf gwerth chweil?
“Y bobl dwi’n gweithio gyda nhw, yn bendant, a chael eu gweld nhw’n magu hyder.”
Cwestiwn 3: Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol?
“Os oes cyfle’n dod eich ffordd chi, cymerwch ef. Rhowch gynnig arni.”
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.