Neidio i'r prif gynnwys

Amy Davies

Gweithiwr Cymdeithasol

Gadawodd Amy yr ysgol heb gymwysterau a phenderfynodd ei bod am wneud gwahaniaeth i berthnasau teuluol. Mae hi nawr yn gweithio i ddod o hyd i gartrefi oes i blant ac yn helpu teuluoedd i ymdopi â materion amrywiol.

Holi ac Ateb gyda Amy

Beth rwyt ti’n ei garu am dy swydd?

Dwi’n frwd iawn dros adeiladu perthnasau a dwi’n gweithio’n galed i sicrhau bod teuluoedd yn aros gyda’i gilydd, hyd yn oed os yw hynny’n golygu ein bod yn gorfod wynebu anawsterau gyda’n gilydd. Dyna beth rwy’n ei garu.

Wyt ti’n wynebu unrhyw heriau?

Mae rhai teuluoedd yn gallu bod yn anodd weithiau, ac mae’n rhaid adeiladu ffydd fel eu bod nhw’n fodlon gweithio’n galed gyda chi.

Pa fath o berson sydd ei angen i fod yn weithiwr cymdeithasol?

Mae’n rhaid i chi allu gweld yr ochr ddoniol, oherwydd heb hynny ni fyddwch yn gallu cysylltu â’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started