Dysgwch fwy am Peter Hornyik
Peter Hornyik
Gweithiwr Gofal Plant Preswyl
Caerffili
Gwneud gwahaniaeth i ddatblygiad plant yw blaenoriaeth Peter. Mae’n frwd dros ddod â llawenydd i fywydau plant difreintiedig. Hyfforddodd Peter, sydd yn wreiddiol o Hwngari, fel athro cynradd cyn symud i weithio gyda phlant mewn gofal cymdeithasol.
Cwestiwn 1: Pa mor amrywiol yw eich swydd?
Un diwrnod rwy’n reidio beiciau, diwrnod arall rwy'n nofio, y diwrnod nesaf byddwn i’n mynd i’r sinema, mae’n hynod o amrywiol!
Cwestiwn 2: Beth yw'r nodwedd pwysicaf ydych ei angen i weithio ym maes gofal plant?
Angerdd. Angerdd yw'r hyn sy'n mynd â chi yn eich blaen.
Cwestiwn 3: Beth yw rhan fwyaf heriol eich swydd?
Gallu deall beth mae'r bobl ifanc wedi bod drwyddo er mwyn deall eu sefyllfaoedd a cysylltu â nhw.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.