fbpx
Skip to main content

Learn more about Helen Greenwood

Helen Greenwood

Helen Greenwood

Arweinydd Meithrinfa
Torfaen

Mae Helen yn Arweinydd Meithrinfa yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl ac mae hi’n frwdfrydig dros addysgu’r genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol i helpu’r plant i ddysgu, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn amgylchedd diogel ac addas i bawb.


Question 1: Pam fod hi’n bwysig i siaradwyr Cymraeg weithio mewn gofal plant?

“Mae rhieni wir yn gwerthfawrogi cael meithrinfa gymunedol syn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac, wrth i fwy a mwy o deuluoedd ddewis addysg Gymraeg, mae angen mwy o siaradwyr Cymraeg arnom i hyfforddi i weithio yn y sector cyn ysgol nas cynhelir”

Question 2: Beth mae dy rôl di’n ei gynnwys?

“Rwy’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn addas i bawb.”

Question 3: Wyt ti’n mwynhau dy swydd?

“Dyma’r peth gorau dwi wedi’i wneud erioed. Mae wedi bod yn wych!”

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs