Neidio i'r prif gynnwys

Izzy & Tyne

Myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Izzy a Tyne yn fyfyrwyr ar y cwrs BTEC Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Gwent. Drwy bartneriaethau gwerthfawr, mae’r cwrs yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio’r hyn maent yn ei ddysgu mewn lleoliadau gwaith, gan eu helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i gael gwaith yn y sector ar ôl cymhwyso.

Holi ac Ateb gyda Izzy & Tyne

Beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am y sector gofal?

Mae lot o bobl ifanc yn ei gysylltu â gofal uniongyrchol ac yn meddwl ei fod yn ddiflas. Ond, mewn gwirionedd, mae’n hynod o werth chweil achos pobl sy’n dod gyntaf.

Ydych chi wedi dysgu unrhyw beth diddorol hyd yn hyn?

Daeth dau weithiwr proffesiynol i siarad â ni am fod yn Arwyr Digidol. Mae pobl hŷn yn aml gartref ar eu pen eu hunain drwy’r dydd, felly gall defnyddio apiau wneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw.

Sut bydd y cwrs hwn yn effeithio ar dy yrfa yn y dyfodol?

Mae wedi gwella fy ngwybodaeth a’m sgiliau tra ‘mod i ar leoliad a gwneud i fi sylwi faint dwi’n mwynhau gallu gwneud pobl yn hapus. Mae gweld eu hymatebion wir yn gwneud i fi wenu.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started