Dysgwch fwy am Jackie Moon
Jackie Moon
Cynorthwyydd Domestig
Mae Jackie yn Hyrwyddwr Dementia. Cysylltodd ag ysgol gynradd leol i drefnu bod grŵp o blant ysgol blwyddyn chwech yn ymweld â Chartref Porthceri i Bobl Hŷn yn y Barri, bob pythefnos i dreulio amser gyda’r preswylwyr. Mae’r effaith ar lesiant y preswylwyr wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r prosiect hwn wedi ysgogi ac ennyn diddordeb y preswylwyr, yn ogystal â chynyddu hyder y bobl ifanc.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.