Learn more about Jake Albrighton

Jake Albrighton
Cynorthwy-ydd Gofal
Ceredigion
Mae Jake yn Gynorthwy-ydd Gofal yng nghartref Tregerddan, Aberystwyth. Ar ôl gwirfoddoli pan oedd yn ifanc, fe gwblhaodd cwrs mynediad i nyrsio cyn derbyn swydd lawn-amser yn gweithio gyda’r preswylwyr.
Question 1: Beth mae gweithio mewn gofal yn ei olygu i ti?
“Dydych chi byth ar ben eich hunain, a does byth cyfle i chi ddiflasu. Mae’r preswylwyr yn wych a phob un gyda phersonoliaethau gwahanol a storïau i rannu, rydych chi’n creu cysylltiad gyda nhw.”
Question 2: Beth wyt ti’n ei weld yn anodd am y swydd?
“Pan mae preswyliwr yn dod yn sâl neu’n marw, mae hynny’n gallu bod yn anodd achos mae’n ychwanegu pwysau, ond mae’n rhaid i chi ganolbwyntio ar eich gwaith a meddwl am weddil y preswylwyr hefyd.”
Question 3: Sut wyt ti’n gwneud gwahaniaeth yn dy gymuned?
“Rydw i wedi byw yma am weddill fy oes, ac mae rhan fwyaf o’r preswylwyr yma wedi hefyd, dwi’n hoffi’r ffaith fy mod i’n helpu pobl. Rydw i’n gallu sicrhau eu bod yn cael amser cyfforddus a mwynhad o’u hamser yma."
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.