Neidio i'r prif gynnwys

Lorna Jones

Rheolwr Cartref Gofal

Ar ôl ymuno â’r sector mewn rôl ran-amser, mae Lorna wedi bod yn gweithio ym maes gofal ers dros 10 mlynedd ond mae’n difaru na wnaeth hi ystyried yn llawer cynt. Ochr yn ochr â’i rôl fel rheolwr Cartref Gofal Meddyg Care i gleifion sydd â dementia yng Nghriccieth, mae’n rhannu ei hangerdd dros y sector trwy ei rôl fel Llysgennad Gofalwn Cymru.

Holi ac Ateb gyda Lorna

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am weithio mewn gofal?

Gall fod yn emosiynol iawn ar brydiau, ond mae’n deimlad gwych o wybod eich bod chi wedi gwneud rhywbeth positif i rywun arall.

Beth allwch chi ei rannu a allai helpu rhywun sy’n ystyried gyrfa mewn gofal?

Rhowch gynnig arni. Mae yna bobl sy’n ymuno â’r sector yn meddwl nad ydyn nhw’n mynd i’w fwynhau, ond ar ôl dwy i dair wythnos, maen nhw’n sylweddoli nad ydyn nhw eisiau gwneud unrhyw beth arall ac yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud y dewis iawn!

Pa mor bwysig yw eich rôl fel Llysgennad Gofalwn Cymru?

Mae’n bwysig cyfleu’r neges i ddangos i bawb pa mor bwysig yw’r sector a’r hyn y gallwch chi ei gyflawni. Mae cymaint o wahanol rannau i ofalu nad yw pobl yn gwybod amdanynt.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started