fbpx
Skip to main content

Learn more about Richard Bartlett

Richard Bartlett

Gofalwr Maeth

Cafodd Richard ei fagu mewn gofal maeth a dywedodd Richard ei bod hi'n bwysig iddo roi rhywbeth yn ôl i'r teulu maeth a'r awdurdod lleol a achubodd ei fywyd.

Mae gan Richard a'i wraig ddau o blant ac maent wedi cefnogi 69 o leoliadau a 74 o blant dros yr unarddeg mlynedd diwethaf. Mae gan lawer o'r plant y maent wedi'u maethu anghenion cymhleth ac anableddau dysgu. Mae Richard hefyd yn fentor maeth ac mae'n helpu ac yn cefnogi gofalwyr maeth newydd ar eu taith faethu.

Ydych chi wedi profi unrhyw heriau fel Gofalwr Maeth?

Un her a gawsom oedd pan oeddem yn gofalu am blentyn a oedd o gefndir Mwslimaidd. Roedd yn rhaid i ni newid ein cartref a chefnogi ei ddiwylliant Mwslimaidd wrth dal i fyw ein diwylliant ein hunain. Buom yn cefnogi ac yn parchu ei grefydd a'i ddiwylliant a oedd yn wahanol iawn i'n crefydd a'n diwylliant ni ac fe'i cefnogwyd drwy Ramadan. Roedd hyn yn eithaf anodd, ond cyrhaeddwyd yno yn y diwedd.

Beth yw oedrannau'r plant rydych chi wedi'u maethu?

Y plentyn cyntaf a gawsom oedd pedwar oed ac erbyn hyn mae gennym blentyn deunaw oed. Mae rhai o'r plant a'r bobl ifanc rydym wedi'u maethu wedi cael anghenion cymhleth. Rydym hefyd wedi mynd i'r ysbyty gyda'r plant sy'n derbyn gofal yn yr yno hefyd.

Beth fu eich amser fwyaf cofiadwy?

Mae pob diwrnod yn foment arbennig. Daeth un plentyn atom gydag anableddau, ac ni allai ddefnyddio cyllell a fforc. Roedd y plentyn ar feddyginiaeth ac yn ysgwyd llawer gan achosi trafferthion ysgrifennu. Dwy flynedd yn ddiweddarach mae oddi ar bob meddyginiaeth ac mae'n dysgu bob dydd, mae'n hyfryd gweld.


Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs