Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

10 Chwefror 2022

Dyma Ellis, aelod newydd o'r tîm

Ellis yw Cynrychiolydd ar gyfer Powys a aelod diweddaraf tîm Gofalwn Cymru. Mae gennym saith cynrychiolydd ledled y wlad erbyn hyn, gan gynnwys y Gogledd, Powys, Gorllewin Morgannwg, Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Gwent a’r Gorllewin. Maen nhw’n helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Maen nhw’n denu mwy o bobl sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn rolau gofal gyda phlant ac oedolion. Mae Ellis wedi cael profiad ymarferol gwych, a gobeithio y bydd yn gallu ysbrydoli eraill i wneud dewisiadau tebyg.

 

Pryd wnaethoch chi gychwyn gyrfa ym maes gofal?

Penderfynais wneud iechyd a gofal cymdeithasol Safon Uwch. Ar ôl pasio’r arholiadau, gofynnodd ffrind i mi a fyddai gennyf ddiddordeb mewn gweithio mewn uned diogelwch canolig iechyd meddwl fforensig. Roeddwn i’n 18 oed, a meddyliais, pam lai.

Roeddwn i’n gweithio gyda charcharorion o unedau diogel iawn fel Broadmoor, Rampton ac Ashworth. Roedd yn gryn agoriad llygad. Yma, gweithiais gyda llawer o bobl mewn rolau gofal gwahanol, ac yn sgil y profiad hwn, dechreuais ystyried llwybr gyrfa ym maes gofal.

 

Pa swyddi ydych chi wedi’u gwneud ym maes gofal?

Ar ôl gweithio yn yr uned iechyd meddwl, bues i’n gweithio mewn cartref gofal preswyl i oedolion ag anableddau dysgu gan ddatblygu i fod yn arweinydd tîm. Fel rhan o’r rôl hon, bues i’n cefnogi dyn ifanc cyn dod yn gynorthwyydd personol iddo am flynyddoedd lawer.

Dwi wedi gweithio gyda phlant mewn ysgolion anghenion addysg arbennig hefyd. Roedd hon yn rôl heriol ond oherwydd fy mhrofiad ym maes iechyd meddwl, roeddwn i’n gallu ymdopi ag ymddygiad mwy heriol, o’u helpu gyda gwaith ysgol i’w ffrwyno.

Ymunais â thîm Gofalwn Cymru ym mis Tachwedd 2021. Rwy’n mwynhau helpu i recriwtio pobl fel fi i’r sector. Rwy’n lwcus fy mod i’n gallu rhannu fy mhrofiadau, felly rwy’n gallu meithrin cysylltiadau da â phobl ifanc eraill a newid y syniadau sydd ganddynt am faes gofal, gobeithio.

 

Soniwch wrthym am Bowys?

Ym Mhowys maent yn cynnig cynllun gweithiwr cymdeithasol o’r enw “Menter Tyfu Ein Hunain” sy’n cefnogi mynediad i raglen Gradd Israddedig mewn Gwaith Cymdeithasol y Brifysgol Agored y byddaf yn ei dechrau y flwyddyn nesaf. a gan ‘mod i wrth fy modd yn yr awyr agored, roeddwn i’n meddwl y byddai’n lle braf i fyw.

Yn ystod fy amser hamdden, rwy’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored. Rwyf wrth fy modd yn gwersylla, cerdded, ymweld â Chwm Elan, y cronfeydd dŵr a’r argaeau. Mae yna gymuned gwylio adar fawr yma hefyd, lle gallwch weld llawer o farcutiaid coch.

 

Beth yw’r uchafbwynt hyd yma?

Chwalu cyfyngiadau pobl a rhoi cyfle iddyn nhw weld y byd o safbwynt nad oeddent byth yn meddwl y gallent ei weld. Fel cynorthwyydd personol, bues i’n gweithio gyda dyn ifanc, cawsom sawl antur fel mynd i wyliau cerddorol ac i sgïo.

Hefyd, roeddwn i’n gweithio gydag unigolyn a gafodd anaf i’r ymennydd wrth wneud chwaraeon. Audi Q5 Quattro oedd ei gar symudedd, a chefais yrru’r car i bobman oedden ni’n mynd!

 

Beth yw eich cynlluniau at y dyfodol?

Unwaith y byddaf yn gymwys ac wedi cael ychydig o flynyddoedd o brofiad yn fy ngradd gwaith cymdeithasol, hoffwn symud i Seland Newydd neu Ganada. Mae gan wledydd de’r Môr Tawel gryn barch at gymhwyster proffesiynol o’r DU ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan ein bod yn un o’r gwledydd mwyaf blaenllaw yn y sector. Mae gennyf deulu yn Seland Newydd hefyd, felly mae’n rhywbeth sy’n apelio’n fawr iawn.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.