Cwrs newydd am ddim yn helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddysgu Cymraeg
19 May 2023
Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru nawr ddysgu Cymraeg am ddim, diolch i gwrs ar-lein newydd.
Rydyn ni wedi creu’r cwrs Camau mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn arbennig ar gyfer bobl sy’n gweithio o fewn gofal cymdeithasol.
Mae’n cynnig dysgu hyblyg drwy gyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar y geiriau a thermau y mae gweithwyr eu hangen fwyaf wrth gyfathrebu gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Mae’r modiwl Mynediad yn addas i ddechreuwyr ac mae’n cymryd rhyw 60 awr i’w gwblhau, mewn tri darn o 20 awr.
Mae’n cyfrif tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol a bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn cael tystysgrif.
Dywedodd Liz Parker, ein Swyddog Ymgysylltu a Datblygu: “Rydyn ni’n hynod o falch fod y cwrs newydd yma ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd yn helpu mwy o staff i fagu’r sgiliau a’r hyder i siarad Cymraeg gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
“Gall defnyddio’r Gymraeg – hyd yn oed ychydig eiriau, helpu pobl i deimlo’n gynwysedig ac yn fwy cyfforddus.”
Archebwch eich lle
Gallwch gofrestru ar gyfer y cwrs Mynediad drwy wefan Dysgu Cymraeg. Mae dau gwrs ar gael, yn defnyddio tafodiaith y gogledd neu’r de.
Cofrestrwch ar gyfer: