Neidio i'r prif gynnwys
Gofal plant

06 Medi 2021

Cystadleuaeth Instagram Plant Gofalwn

Heddiw rydyn ni’n lansio cystadleuaeth newydd ar Instagram i ddod o hyd i’r timau gofal plant, darparwyr chwarae a gwarchodwyr plant sy’n mynd y tu hwnt i’r gofyn ar gyfer plant yn eu gofal.

Os rydych chi’n adnabod tîm gofal plant, darparwr chwarae neu warchodwr plant yng Nghymru sy’n haeddu cael eu cydnabod am eu hymdrechion ewch draw i Instagram i’w nomineiddio.

I enwebu darparwr, bydd angen i chi:

  • postio delwedd o’ch henwebai ar eich grid Instagram (cofiwch ofyn caniatad cyn rhannu llun o’ch henwebai)
  • rhannu pam eich bod yn eu henwebu
  • tagio @gofalwncymrucares gan ddefnyddio hashnod y gystadleuaeth #PlantGofalwn

Y dyddiad cau ar gyfer enwebu’ch hoff dîm gofal plant, darparwr chwarae neu warchodwr plant yw dydd Sul 19 Medi am hanner nos.

Cwrdd â’n beirniaid

Dyma ein tri beirniad Plant Gofalwn…

Maggie Kelly,
Cadeirydd Rhwydwaith y Blynyddoedd Cynnar
Matt Anthony,
Llysgennad Gofalwn Cymru
Hanna Hopwood Griffiths,
Mam, Darlledwr, Darlithydd a Dylanwadwr Cyfryngau Cymdeithasol

Gofynnom ychydig o gwestiynau i’n beirniaid er mwyn dod i’w hadnabod yn well…

A allwch chi ddweud ychydig bach wrthym am eich gwaith?

Maggie: Fi yw’r Rheolwr Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Blynyddoedd Cynnar Cymru ac rwyf wedi bod yn rhan o’r sector Blynyddoedd Cynnar ers tua 30 mlynedd. Rwy’n cynnal trosolwg o’r prosiectau rydyn ni’n eu cyflawni ac rwy’n rheoli ein cynllun Ansawdd i Bawb, gan gefnogi cyflwyno gofal plant o safon gan ein haelodau.

Rwyf hefyd yn Gadeirydd y Rhwydwaith Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru, gan alluogi datblygu cefnogaeth a rhannu gwybodaeth a datblygiadau polisi sy’n berthnasol i’r sector.

Matt: Fi yw Swyddog Datblygu Iaith Cymraeg Blynyddoedd Cynnar Cymru. Rwy’n teithio ledled Cymru i gefnogi lleoliadau blynyddoedd cynnar i ddatblygu’r Gymraeg yn eu lleoliadau.

Dechreuais gweithio gyda phlant pan oeddwn yn 16 oed wrth imi wirfoddoli mewn meithrinfa ddydd leol ochr yn ochr ag astudio yn y coleg. Gyda dros saith mlynedd o brofiad yn y sector, rwyf wedi gweithio mewn sawl rôl; Gwirfoddolwr, Gweithiwr Chwarae, Nyrs Feithrin ac Arweinydd Tîm.

Hanna: Dwi’n fam i ddau fachgen bach, yn ddarlledwr ar BBC Radio Cymru ac yn ddarlithydd. Rwyf hefyd yn cynnal cyfrif Instagram @gbyhaws

Pam rydych chi’n meddwl bod gofal plant yn bwysig?

Maggie: Rwy’n credu bod gofal plant yn bwysig oherwydd ei fod yn darparu cyfleoedd anfesuradwy i blant gymdeithasu, datblygu cyfeillgarwch, chwarae, archwilio a dysgu mewn amgylcheddau diogel sy’n meithrin, gan sicrhau rhieni a gofalwyr bod eu plentyn yn derbyn gofal yn eu habsenoldeb.

Matt: Rwy’n gwybod o brofiad personol pa mor hanfodol y gall gofal plant o ansawdd uchel fod. Ar ôl cael fy ngeni ag anawsterau clyw difrifol, ni lwyddais i gyfathrebu ar lafar nes fy mod yn wyth oed. Ddaru’r gofal a’r addysg a gefais yn fy mlynyddoedd ffurfiannol siapio fy mywyd ac ni fuaswn y person rydw i hebddo. Roedd y profiadau cadarnhaol a gefais fel plentyn yn gweithredu fel y blociau adeiladu a alluodd imi gyrraedd fy mhotensial.

Hannah: Y plant yw’r peth pwysicaf yn ein bywydau ac felly mae gofal yn rhywbeth holl bwysig ac yn fuddsoddiad enfawr i ni ar lefel emosiynol. Mae’n rhywbeth sy’n caniatâu i ni barhau i weithio ac yn cynnig cyfle i’r plant gymdeithasu ac ehangu eu profiadau ar sawl lefel. Mae’n rhywbeth gwerthfawr iawn. 

Pam ei bod yn bwysig cydnabod timau gofal plant, darparwyr chwarae a gwarchodwyr plant sy’n mynd y tu hwnt i’r gofyn i’r plant yn eu gofal?

Maggie: Credaf fod pob tîm gofal plant, darparwr chwarae a gwarchodwr plant yn gweithio’n ddiflino i chwarae rhan sylweddol wrth feithrin datblygiad a dysgu plant. Mae’r rhai sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig.

Matt: Mae’n hanfodol bod ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n darparu gofal o ansawdd uchel neu’n mynd yr ail filltir i sicrhau bod y plant yn eu gofal yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd yn cael eu cydnabod a’u dathlu. Mae ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn darparu blociau adeiladu ar gyfer y dyfodol ac mae ganddyn nhw rôl mor ddylanwadol o ran sut mae’r dyfodol yn cael ei lunio a sut mae bywydau’n cael eu byw.

Hannh: Mae hi’n holl bwysig cydnabod gwaith y tîmau arbennig hyn – dyma waith sy’n dod o’r galon – ac yn galw am fynd yr ail filltir yn gyson. Maen nhw’n haeddu pob clod a llwyddiant. Diolch amdanyn nhw.  

Bydd ein panel yn dewis pum ymgeisydd i fynd ymlaen i’r rownd derfynol a bydd yr enillydd yn cael ei ddewis trwy bleidlais gyhoeddus rhwng 6-11 Hydref 2021. Cyhoeddir yr enillydd yn ystod Wythnos Gofalwn Cymru, ddydd Gwener 15 Hydref, 2021.

Dilynwch #PlantGofalwn ar Instagram: www.Instagram.com/gofalwncymrucares/

Logo-Plant-Gofalwn-WeCare-Children

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.