Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

25 Awst 2020

Digwyddiad arbennig ar gyfer staff cartrefi gofal ym Mro Morgannwg

Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliodd Chemical Corporation (UK) Ltd ddigwyddiad arbennig ym Mharc Hamdden Ynys y Barri fel teyrnged i staff GIG a chartrefi gofal ledled Bro Morgannwg.

Roedd 1,100 o bobl wedi’u cofrestru i fynd i’r digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig, ac yn sicr roedd y bobl leol yn edrych ymlaen yn fawr at fwynhau’r reidiau am ddim a’r bwyd am bris gostyngol yn y parc hamdden sy’n enwog diolch i Gavin a Stacey a ddarlledwyd ar y BBC.

Trefnwyd y digwyddiad gan Chemical Corporation (UK) Ltd ac fe’i noddwyd gan Henry Danter, perchennog Parc Hamdden Ynys y Barri, fel arwydd o ddiolch i staff y GIG a chartrefi gofal Bro Morgannwg am eu gwaith anhygoel yn ystod y pandemig coronafeirws.

Roedd poblogrwydd y digwyddiad y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau. Yn ôl Alan Barham, Cadeirydd Chemical Corporation: “Rydw i wrth fy modd gweld cyffro’r plant a mawr obeithio y bydd yn ddiwrnod i’w gofio i bawb.”

Rhain Jones and family at Barry Island Pleasure Park

Eglurodd Rhian Jones, Rheolwr Gwasanaethau yn Recovery Care Limited, yn y Barri, pa  mor anodd oedd y cyfyngiadau symud iddi hi a’i thîm.

“Mae Recovery Care yn ddarparwr gwasanaethau byw â chymorth a llety, sy’n cynnig cymorth 24/7  i oedolion ag anableddau iechyd meddwl a dysgu. Fe wnaeth pawb symud i mewn am wythnos ar y tro, byddai ein sifft yn cychwyn am 10am fore Llun tan yr un amser y dydd Llun canlynol – fe wnaeth pob un ohonom ni weithio mwy na’u horiau arferol. Roedd yn anodd, yn enwedig i’n teuluoedd, ond roedd yn werth chweil gan doedd gennym ni ddim achosion o Covid-19 yn ystod y cyfnod hwn.”

Aeth Rhian i’r digwyddiad teuluol gyda’i mab, ei chwaer a’i nithoedd.

Craig Quinnell at Barry Island Pleasure Park

“Mae’r plant wedi gwirioni’n lân! Mae digwyddiadau fel hyn yn hwb, mae’n braf ein bod ni’n cael ein cydnabod am ein gwaith.”

Gwelwyd ambell i wyneb cyfarwydd yn y digwyddiad, yn cynnwys Craig Quinnell, cyn chwaraewr Undeb Rygbi Cymru.

Meddai Craig: “Mae’n ffordd hyfryd o ddiolch i’r gweithwyr a oedd wedi rhoi eu bywydau personol o’r neilltu er lles ein cymuned. Mae’n wych eu gweld yn mwynhau gyda’u teuluoedd.”

 

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.