Wythnos Genedlaethol Diogelu
Os ydych chi’n ystyried cael swydd mewn gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant, cymerwch gip ar hyfforddiant ar-lein newydd i’ch helpu chi i adnabod arwyddion cam-drin, niwed neu esgeulustod plant neu oedolion.
Bydd y pecyn e-ddysgu dwyieithog Gofal Cymdeithasol Cymru rhoi dealltwriaeth ymarferol i chi o ddiogelu. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn gallu:
- esbonio’r term ‘diogelu’
- cydnabod camdriniaeth neu’r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
- gwybod pa gamau i’w cymryd os ydych chi’n gweld neu’n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud wrthych eu bod yn cael eu cam-drin
- deall hanfodion deddfau ynghylch diogelu
- cydnabod bod dyletswydd arnoch i riportio camdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
Gwyliwch y fideo hwn er mwyn cael cyflwyniad i ddiogelu…
I gael mwy o wybodaeth am ddysgu a deall diogelu, ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mwy o erthyglau newyddion
Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.