Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd
Heddiw yw Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd!
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn helpu i ddal cymunedau yng Nghymru gyda’i gilydd. Ond beth mae’n ei olygu, a phwy mae’n ei helpu?
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn bodoli i ddarparu cymorth sy’n canolbwyntio ar wella lles teuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr.
Er bod rôl gwasanaethau cymdeithasol yn gymhleth ac amrywiol, mae’n seiliedig ar ddarparu gofal a chymorth hanfodol. Maen nhw’n darparu llais i deuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr, gan greu amgylchedd diogel.
Ewch i’n tudalen Gwasanaethau Cymdeithasol i gael mwy o wybodaeth:
Beth mae Gweithwyr Cymdeithasol yn ei wneud?
Nod Gweithwyr Cymdeithasol yw gwella bywydau’r bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw. Maent yn cefnogi pobl drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a’u llesiant.
Maent yn gweithio gydag unigolion, gan gefnogi eu perthnasoedd â’u teuluoedd, grwpiau a chysylltiadau â’u cymuned. Eu helpu i adnabod eu cryfderau, datblygu eu sgiliau a gweithio ar broblemau neu heriau y gallent fod yn eu hwynebu.
Ewch i’n tudalen Gweithwyr Cymdeithasol i gael mwy o wybodaeth:
Eisiau dod yn Weithiwr Cymdeithasol?
Os ydych chi’n angerddol ac yn ymroddedig i ofalu am eraill, fe allech chi ddod yn Weithiwr Cymdeithasol gwych.
Enghraifft berffaith o hyn yw Amy o Gyngor Bwrdeistref Sir Caerffili. Gadawodd Amy yr ysgol heb gymwysterau a phenderfynodd ei bod am wneud gwahaniaeth i berthnasau teuluol. Mae hi nawr yn gweithio i ddod o hyd i gartrefi oes i blant ac yn helpu teuluoedd i ymdopi â materion amrywiol.
Roedd Helen yn athrawes gyflenwi mewn ysgolion cynradd am ddeng mlynedd ar hugain, ond un diwrnod penderfynodd ei bod eisiau gwneud mwy i wneud gwahaniaeth, felly gwnaeth ei MSc mewn Gofal Cymdeithasol a daeth yn Weithiwr Cymdeithasol.
Cymwysterau Gwaith Cymdeithasol
Mae ar Weithwyr Cymdeithasol angen:
- sgiliau cyfathrebu ardderchog
- cadernid
- gwybodaeth am y gyfraith a pholisi
- gwybodaeth am theori gwaith cymdeithasol.
Er mwyn cymhwyso’n Weithiwr Cymdeithasol yng Nghymru mae’n rhaid i chi gwblhau cwrs a gymeradwyir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
I gael gwybodaeth am brifysgolion Cymru sy’n cynnig y radd israddedig neu’r radd Meistr ewch i Gofal Cymdeithasol Cymru:
Addysg gymhwyso gwaith cymdeithasol
Gweithiwr Cymdeithasol yn barod?
Diolch am eich gwaith!
Dyma rai adnoddau i’ch cefnogi gan Gofal Cymdeithasol Cymru:
GofalCymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/canlyniadau-personol