Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

10 Tachwedd 2020

Enillydd gwobr Gofalwn Cymru cyntaf wedi'i chyhoeddi!

Sandra Stafford - WeCare Wales award winnerMae Sandra Stafford, gofalwr maeth o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi cael ei henwi’n enillydd gwobr Gofalwn Cymru cyntaf yn y Gwobrau eleni.

Aeth y wobr Gofalwn Cymru i Sandra ar ôl iddi gael ei henwebu am y wobr gan weithwyr cymdeithasol Danielle Dally a Sarah Vater.

Yn eu henwebiad, wnaeth Danielle a Sarah disgrifio Sandra a’i gŵr Mark fel “gofalwyr maeth eithriadol” sy’n dangos ymrwymiad ac angerdd, ac sydd wedi darparu gofal o ansawdd uchel i’r holl blant maen nhw wedi’u maethu ers 2001.

Mae’r Gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Ofal Cymdeithasol Cymru, yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu ymarfer rhagorol mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Cyflwynwyd cyfanswm o chwe Gwobr yn gynharach heddiw mewn rhaglen ddathliadol a gyflwynwyd gan y cyflwynydd radio a theledu, Garry Owen, a Phrif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sue Evans, a ddarlledwyd yn fyw ar YouTube.

Yn newydd ar gyfer 2020, mae’r wobr Gofalwn Cymru yn dathlu gweithwyr gofal unigol yng Nghymru sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Roedd Sandra yn un o bump yn y rownd derfynol a ddewiswyd ar gyfer y wobr gan banel o feirniaid ac fe’i dewiswyd yn enillydd mewn pôl cyhoeddus lle pleidleisiodd mwy na 2,000 o bobl.

Roedd panel beirniaid y Gwobrau’n cynnwys aelodau Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, cynrychiolwyr o sefydliadau partner ar draws gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, enillwyr blaenorol a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.

Dywedodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi cael y cyfle hwn gyda’r Gwobrau i dalu teyrnged i’r gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, ac i ddathlu cyfraniad y rhai sy’n darparu rhagoriaeth mewn gofal.

“Mae hi mor bwysig ein bod ni’n dathlu rhagoriaeth mewn gofal, nawr yn fwy nag erioed. Yn ystod blwyddyn anhygoel a chaled i bawb ohonom ni, fe ddylen ni fod yn falch ac wedi ein calonogi gan yr esiamplau anhygoel o waith gofal gan y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

“Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn wirioneddol arloesol ac ysbrydoledig – mae cymaint i ymfalchïo ynddo. Mae’r teilyngwyr wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau 2020 oherwydd eu hymroddiad, eu sgiliau a’u gwaith caled, ac mae’n anrhydedd i mi gydnabod a dathlu eu llwyddiant.”

Dywedodd Mick Giannasi CBE, Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru: “Bu’r gwobrau hyn yn ffordd i ddweud diolch ac i ddathlu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant o un diwrnod i’r llall mewn cymunedau ledled Cymru.

“Bu eleni’n annhebyg i unrhyw flwyddyn arall, ac mae’r rhai sy’n gweithio yn y sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant wedi rhagori yn y ffordd maent wedi cefnogi unigolion a chymunedau, drwy helpu i gadw pobl yn ddiogel a’u galluogi i barhau i fyw’r bywydau sydd o bwys iddynt, cystal ag y gallant.

“Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Dylech fod yn falch iawn o’ch cyflawniadau a’r gwaith rhagorol rydych yn ei wneud. Diolch hefyd i bawb sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant am bopeth rydych chi’n ei wneud ar ran pobl yng Nghymru.”

Dywedodd Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sue Evans: “Roeddem wrth ein bodd, nid yn unig â’r nifer fwyaf erioed o geisiadau, ond safon ac amrywiaeth y ceisiadau a gawsom ar gyfer Gwobrau 2020.

“Bu eleni’n un o’r blynyddoedd mwyaf heriol erioed i’n beirniaid, gan fod pethau’n dynn iawn rhwng rhai o’r teilyngwyr yn eu categorïau. Mae’r profiad wedi dangos i ni gymaint o enghreifftiau gwych o ofal a chymorth rhagorol sydd gennym yma yng Nghymru, a’r gwahaniaeth gwerthfawr a chadarnhaol mae gweithwyr gofal yn ei wneud i fywydau cymaint o bobl.

“Byddwn yn parhau i ddathlu a rhannu’r enghreifftiau bendigedig hyn o ofal â’r sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn y dyfodol, fel rhan o’n gwaith i gefnogi a gwella ymarfer ledled Cymru.”

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.