Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

19 Awst 2020

Ennill hyfforddiant a chymwysterau wrth weithio ym maes gofal

Mae tua un o bob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar neu ofal plant – mae hynny tua 113,000 o bobl!

Os oes gennych chi agwedd bositif ac ymrwymiad i ofalu am eraill, yna gyda’r mwyafrif o swyddi fe gewch chi unrhyw hyfforddiant a chymwysterau sydd eu hangen arnoch chi wrth wneud y swydd.

Mae Kayleigh Evans, Uwch Weithiwr Gofal Plant o Wrecsam, wedi bod yn gweithio yn y diwydiant gofal ers dros 14 o flynyddoedd. Yma, mae’n sôn sut mae hi wedi datblygu ei gwybodaeth a’i sgiliau ac wedi cael y cymwysterau sydd eu hangen arni wrth weithio.

 

 

Sut wnest ti ddechrau gweithio yn y sector gofal?

Kayleigh Evans, a Senior Childcare WorkerDechreuodd fy nhaith fel gweithiwr gofal pan oeddwn i’’n 16 oed. Dechreuais yn golchi llestri yng nghegin cartref nyrsio ac roeddwn i wrth fy modd yn ymwneud â’r  cleifion hŷn amser bwyd.

O bryd i’w gilydd roedden nhw’n gofyn i mi weithio fel gweithiwr achos. Roedd hyn ychydig bach yn frawychus i ddechrau, ond roeddwn i wrth fy modd! Roedd helpu i gynorthwyo’r henoed a phobl fregus gyda’u hanghenion dyddiol, gan wybod fy mod i wedi gwneud i rywun deimlo’n gyfforddus, yn hapus a diogel yn deimlad gwerth chweil.

 

Oedd gen ti unrhyw gymwysterau neu hyfforddiant?

Doedd gen i ddim cymwysterau na hyfforddiant pan ddechreuais i weithio yn y cartref nyrsio. Ar ôl i mi ddechrau fel gweithiwr gofal, cefais y cyfle i gwblhau fy NVQ lefel 2 a 3 ym maes iechyd oedolion a gofal cymdeithasol.

 

Pam symud i weithio gyda phlant?

Dechreuodd fy nhaith fel gweithiwr gofal plant pan ddywedodd ffrind wrtha i fod swyddi gwag yn y cartref lle’r oedd hi’n gweithio. Dywedodd y byddai’r swydd yn addas i mi, felly penderfynais fynd amdani! Roedd yn gartref gofal seibiant i blant gydag anawsterau dysgu.

Gweithiais yno am chwe blynedd a dysgu llawer o sgiliau, fel iaith arwyddion, Makaton, sut i reoli ymddygiad anodd ac fe wnes i fagu dealltwriaeth o awtistiaeth.

Daeth cyfle arall i’r fei mewn cartref gofal arall gyda gwell oriau gwaith i mi a’m teulu. Doedd gen i ddim syniad pa fath o hyfforddiant oedd ei angen, ond gan fy mod i’n naturiol siaradus, ac yn fodlon gwrando, yn ofalgar ac yn hoffi gweithio gydag eraill, penderfynais roi cynnig arni.

 

Alli di ddisgrifio dy rôl fel gweithiwr gofal plant?

Rwy’n dysgu sgiliau bywyd sylfaenol i blant a phobl ifanc, pethau y gallwn ni eu cymryd yn ganiataol, fel:

  • cymryd gofal o hylendid personol
  • gofalu am hylendid personol
  • helpu i baratoi prydau maethlon iach
  • cadw gofod personol yn lân a thaclus
  • sut i feithrin perthnasoedd positif gyda theuluoedd a ffrindiau.

Yn bwysicaf oll, rwy’n helpu plant a phobl ifanc i reoli eu hemosiynau a’u problemau mewn ffordd ddiogel, effeithiol gan fod llawer wedi cael profiadau trawmatig yn y gorffennol yn anffodus.

Y teimlad gorau yw gweld y newidiadau hyn yn digwydd. Mae’n deimlad braf pan fo’r plant a’r bobl ifanc yn fy ngofal yn magu’r sgiliau hyn a, phan fyddan nhw’n barod, yn pontio i fywyd fel oedolion.

O dro i dro, gall fod yn anodd gweithio gyda phlant mewn gofal, ond mae’n talu ar ei ganfed. Rwy’n falch iawn o allu darparu amgylchedd diogel, hapus a gofalgar i blant yn fy ngwaith.

 

Oes angen profiad neu gymwysterau arnat ti i wneud dy waith?

Dydych chi ddim angen cymwysterau i fod yn weithiwr gofal plant, ond gall helpu gyda’r broses o wneud cais. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gwblhau diploma lefel 3 mewn gofal iechyd yn eich dwy flynedd gyntaf yn y swydd. Mae’n swydd lle gall rhywun ennill cymwysterau, hyfforddiant a phrofiad wrth i chi gamu mlaen yn eich gwaith.

I fod yn uwch weithiwr gofal, mae’n rhaid i chi gael diploma lefel 3 mewn gofal plant, ynghyd â phriodweddau eraill, fel bod yn gyfathrebwr da, y gallu i gadw’ch pen dan bwysau, y gallu i gyfarwyddo eraill, gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun a hyder wrth ddelio â sefyllfaoedd anodd.

 

Kayleigh Evans, a Senior Childcare WorkerPa fath o hyfforddiant ges ti?

Cefais yr hyfforddiant perthnasol ar gyfer fy swydd, fel pwysigrwydd ysgrifennu adroddiadau, hyfforddiant cymorth cyntaf, cyflwyniad i’r plant y byddwn i’n gofalu amdanyn nhw ac ethos y cwmni. Roedd yn rhaid i mi wneud ambell shifft yn cysgodi, lle ymunais â gweithiwr gofal profiadol i ddysgu am y gwaith. Treuliais amser yn dysgu sut i gyfathrebu â’r plant a phobl ifanc, rheolau’r tŷ, trefn pobl ifanc a pha ddisgwyliadau oedd ganddyn nhw ar gyfer y plant a’r bobl ifanc a oedd yn byw yno. Roedd yn rhaid i mi hefyd ddarllen llawer o ddogfennau, a oedd yn dalcen caled i ddechrau, ond a helpodd fi go iawn wrth i mi baratoi i allu darparu’r gofal mwyaf diogel a gorau posibl.

Ar gyfer fy swydd bresennol, fel uwch weithiwr cymdeithasol, dwi wedi cwblhau diploma lefel 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc. Dwi  hefyd wedi cael hyfforddiant mewn codau ymarfer, diogelu, amddiffyn plant, ymwybyddiaeth o awtistiaeth, deall iechyd meddwl, gweinyddu meddyginiaeth, gweithio gyda theuluoedd, deall hawliau plant a rheoli ymddygiad heriol.

Dwi wedi derbyn hyfforddiant heb ei ail sydd wedi’i deilwra i fy swydd a’m gweithle. Mae hyn wedi fy helpu i ddarparu gofal o ansawdd uchel.

 

Pam ddylai pobl ystyried gweithio ym maes gofal?

Os ydych chi wrth eich bodd yn gofalu am eraill, ddim yn feirniadol, yn caru gweithio fel rhan o dîm ac am gefnogi pobl i gael gwell dyfodol, yna byddwn yn eich annog i ystyried gweithio ym maes gofal.

Mae’n bwysig bod yn dryloyw, peidio â beirniadu neb, gweithio’n ddidwyll a thrin pawb fel unigolion i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Gall yr oriau fod yn hir a dyw’r cyflog ddim yn adlewyrchu cyfrifoldeb y swydd bob amser, ond rydym yn darparu cymorth ac yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i wneud newidiadau positif yn eu bywydau i’w helpu i gael gwell dyfodol – dyna pam dwi’n caru fy swydd.

Dwi’n caru fy mhroffesiwn a byddwn yn sicr yn annog unrhyw un i ystyried gyrfa ym maes gofal!

 

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.