Cael swydd mewn gofal cymdeithasol
Ydych chi’n barod am yr her? Dysgwch fwy o’r astudiaethau achos isod.
Helen Greenwood
Arweinydd Meithrinfa
Mae Helen yn Arweinydd Meithrinfa yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl ac mae hi’n frwdfrydig dros addysgu’r genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol i helpu’r plant i ddysgu, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn amgylchedd diogel ac addas i bawb.
Jake Albrighton
Cynorthwy-ydd Gofal
Mae Jake yn Gynorthwy-ydd Gofal yng nghartref Tregerddan, Aberystwyth. Ar ôl gwirfoddoli pan oedd yn ifanc, fe gwblhaodd cwrs mynediad i nyrsio cyn derbyn swydd lawn-amser yn gweithio gyda’r preswylwyr.
Alaw Paul
Gweithiwr Cymorth Ieuenctid
Penderfynodd Alaw ei bod eisiau gweithio gyda phobl ifanc wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc a haf yn gweithio yn Camp America. Mae hi hefyd wedi treulio cyfnod yn gweithio fel gweithiwr cefnogi teulu i Barnado’s cyn symud i weithio fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yng Ngwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn gweithio gyda phobl ifanc.
Tracy Martin-Smith
Uwch Swyddog Synhwyraidd
Mae Tracy yn gweithio gyda phobl ddall a rhannol ddall ac yn swyddog adsefydlu hyfforddedig. Mae hi’n rheoli tîm sy’n cefnogi pobl o bob oedran drwy gynhyrchu dogfennau braille a chynnal gweithdai symudedd gan ddefnyddio ffyn. Mae hi hefyd yn gweithio’n agos gyda chŵn tywys i sicrhau bod y bobl y mae hi’n eu cefnogi yn gallu mwynhau’r bywyd gorau posib.
Karen Llewellyn
Darlithydd yn y Blynyddoedd Cynnar
Ar ôl gweithio fel gwarchodwr plant am 13 mlynedd, penderfynodd Karen ddefnyddio ei gwybodaeth a’i dealltwriaeth i symud ymlaen a dod yn ddarlithydd yng Ngholeg Gŵyr. Mae hi’n darlithio mewn Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol i helpu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol, gofalwyr a gwarchodwyr plant.
Mair Aubrey
Rheolwr Gwasanaeth
Yn fwy na dim, mae Mair eisiau sicrhau bod y bobl y mae hi’n gweithio gyda nhw yn gallu byw eu bywydau gystal â phosib. Dechreuodd Mair ar ei thaith ofalu fel gweithiwr cymorth ac mae wedi cwblhau dau gymhwyster wrth weithio. Mae hi nawr yn rheoli staff mewn cartref gofal i oedolion anabl, gan sicrhau bod ei thenantiaid yn cael y gofal a’r cymorth cywir.
Amanda Calloway
Gwarchodwr Plant
Ar ôl cael plant, roedd Amanda eisiau symud 'mlaen o’i gyrfa mewn bancio. Dewisodd fod yn warchodwr plant oherwydd yr hyblygrwydd. Ochr yn ochr â’i gyrfa fel gwarchodwr plant, gan weithio o gartref, astudiodd Amanda am radd yn y Blynyddoedd Cynnar a chymhwyster rheoli Lefel 5.
Peter Hornyik
Gweithiwr Gofal Plant Preswyl
Gwneud gwahaniaeth i ddatblygiad plant yw blaenoriaeth Peter. Mae’n frwd dros ddod â llawenydd i fywydau plant difreintiedig. Hyfforddodd Peter, sydd yn wreiddiol o Hwngari, fel athro cynradd cyn symud i weithio gyda phlant mewn gofal cymdeithasol.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.