Cael swydd mewn gofal cymdeithasol
Ydych chi’n barod am yr her? Dysgwch fwy o’r astudiaethau achos isod.
Helen Dobson
Gweithiwr Cymdeithasol
Roedd Helen yn athrawes gyflenwi mewn ysgolion cynradd am ddeng mlynedd ar hugain, ond un diwrnod penderfynodd ei bod eisiau gwneud mwy i wneud gwahaniaeth, felly gwnaeth ei MSc mewn Gofal Cymdeithasol a daeth yn Weithiwr Cymdeithasol.
Karima Alghmed
Gweithiwr Gofal Cartref
Mae Karima wedi gweithio fel gweithiwr gofal cartref ers 15 mlynedd. Yn wreiddiol o Libya, mae gan Karima radd mewn Daeareg. Fel mam sengl, aeth i ofal yn gyntaf oherwydd rhoddodd yr hyblygrwydd iddi ofalu am ei phlentyn, yn ogystal ag eraill.
Mike Williams
Gweithiwr Gofal Cartref a Rheolwr Cynorthwyol
Mae Mike wedi gweithio mewn gofal ers 12 mlynedd, ac mae ei angerdd yn amlwg i bawb. Yn siaradwr Cymraeg brwd, mae Mike yn credu bod iaith yn chwarae rhan bwysig yn y lleoliad gofal.
Hysbyseb Deledu #GofalwnCymru Rhagfyr 2020
Mae Gofalwn Cymru yn lansio porth swyddi newydd gyda hysbyseb deledu ar flaen yr ymgyrch.
Diolch yn fawr iawn i Mike a Cartrefi Cymru am ein helpu i greu'r ffilm arbennig hon.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio ym maes gofal cymdeithasol, ewch i www.gofalwn.cymru/swyddi
Jayne Jenkins
Gweithiwr Gofal Cartref
Mae Jayne yn Weithiwr Gofal Cartref ac mae'n rhan o gynllun Bridgestart yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n galluogi pobl i gael y lefel gywir o ofal i aros yn ddiogel yn y cartref y maent am aros ynddo.
Jackie Moon
Cynorthwyydd Domestig
Mae Jackie yn Hyrwyddwr Dementia. Cysylltodd ag ysgol gynradd leol i drefnu bod grŵp o blant ysgol blwyddyn chwech yn ymweld â Chartref Porthceri i Bobl Hŷn yn y Barri, bob pythefnos i dreulio amser gyda’r preswylwyr. Mae’r effaith ar lesiant y preswylwyr wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r prosiect hwn wedi ysgogi ac ennyn diddordeb y preswylwyr, yn ogystal â chynyddu hyder y bobl ifanc.
Andrew Mack
Gweithiwr Cymorth Gofal
Mae Andrew yn Weithiwr Cymorth Ymroddedig, greddfol sy’n cyfoethogi ac yn gwella bywydau pob plentyn a theulu y mae’n eu cefnogi. Mae Andrew yn addasu ei ymagwedd at bob plentyn, yn defnyddio offer cyfathrebu i ddeall eu meddyliau, dymuniadau, teimladau a dewisiadau.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.