Cael swydd mewn gofal cymdeithasol
Ydych chi’n barod am yr her? Dysgwch fwy o’r astudiaethau achos isod.
Jayne Jenkins
Gweithiwr Gofal Cartref
Mae Jayne yn Weithiwr Gofal Cartref ac mae'n rhan o gynllun Bridgestart yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n galluogi pobl i gael y lefel gywir o ofal i aros yn ddiogel yn y cartref y maent am aros ynddo.
Jackie Moon
Cynorthwyydd Domestig
Mae Jackie yn Hyrwyddwr Dementia. Cysylltodd ag ysgol gynradd leol i drefnu bod grŵp o blant ysgol blwyddyn chwech yn ymweld â Chartref Porthceri i Bobl Hŷn yn y Barri, bob pythefnos i dreulio amser gyda’r preswylwyr. Mae’r effaith ar lesiant y preswylwyr wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r prosiect hwn wedi ysgogi ac ennyn diddordeb y preswylwyr, yn ogystal â chynyddu hyder y bobl ifanc.
Andrew Mack
Gweithiwr Cymorth Gofal
Mae Andrew yn Weithiwr Cymorth Ymroddedig, greddfol sy’n cyfoethogi ac yn gwella bywydau pob plentyn a theulu y mae’n eu cefnogi. Mae Andrew yn addasu ei ymagwedd at bob plentyn, yn defnyddio offer cyfathrebu i ddeall eu meddyliau, dymuniadau, teimladau a dewisiadau.
Kate Mellor
Gweithiwr Cymorth Preswyl
Mae Kate yn Weithiwr Cymorth Preswyl ac yn gweithio hefo ei phlentyn allweddol i feithrin hyder. Mae hi wedi’i gweddnewid yn berson ifanc cryf, annibynnol a hyderus. O’r diwrnod cyntaf, mae Kate wedi bod yn ffigwr allweddol a chyson iddi, a’i model rôl/gwarcheidwad pwysicaf.
Sandra Stafford
Gofalwr Maeth
Mae Sandra a’i gŵr wedi bod yn ofalwyr maeth ers 2001. Fel y prif ofalwr, mae Sandra yn wynebu heriau bob dydd wrth iddi wneud yn siŵr ei bod hi’n diwallu anghenion corfforol ac emosiynol y plentyn, mynd i apwyntiadau meddygol a chyfarfodydd, yn ogystal â chefnogi a hybu cyswllt â’i theulu biolegol.
Rydym ni'n gweithio mewn gofal
#GofalwnCymru
"Rydym ni'n gweithio mewn gofal gydag oedolion a phlant.
"Rydym ni'n gweithio yn eich cymunedau ddydd a nos
"I helpu'r bobl sydd ei angen fwyaf yr eiliad hon.
"Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth.
"Ymunwch a ni"
Rydym ni'n gweithio gyda phlant...
#GofalwnCymru
Tra bod rhieni ledled y wlad yn ceisio cydbwyso gweithio gartref â gofalu am eu plant, mae’r parch a’r edmygedd tuag at weithwyr blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae, sy’n helpu ein plant i ddysgu, chwarae a datblygu, ar gynnydd.
Dim ond Gofalwr
Hysbyseb teledu #GofalwnCymru 2020
Mae cerdd gofalwr am ei swydd wedi dod yn fyw ar ffurf hysbyseb deledu, a grëwyd gan ymgyrch Gofalwn Cymru.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.