Cael swydd mewn gofal cymdeithasol
Ydych chi’n barod am yr her? Dysgwch fwy o’r astudiaethau achos isod.
Izzy and Tyne
Myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae Izzy a Tyne yn fyfyrwyr ar y cwrs BTEC Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Gwent. Drwy bartneriaethau gwerthfawr, mae’r cwrs yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio’r hyn maent yn ei ddysgu mewn lleoliadau gwaith, gan eu helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i gael gwaith yn y sector ar ôl cymhwyso.
Jane Alexander
Prif Swyddog Gweithredol
Mae Jane wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau a lleoliadau yn y sector Blynyddoedd Cynnar. Ar ôl dechrau mewn rôl wirfoddol, cwblhaodd ei chymwysterau a’i hyfforddiant DPP er mwyn datblygu ei gyrfa a chyrraedd ei rôl bresennol; mae hi wedi bod yn goruchwylio darpariaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru ers pum mlynedd a hanner.
Chloe Paterson
Gweithiwr Cymorth Cyfleoedd Dydd
Mae Chloe yn gweithio i Gyngor Sir Rhondda fel Gweithiwr Cymorth Cyfleoedd Dydd, ac mae hi newydd gwblhau rhaglen brentisiaeth. O ddydd i ddydd mae hi’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan adeiladu eu hannibyniaeth a dysgu sgiliau newydd iddyn nhw.
Mark Pearson
Rheolwr Hyfforddiant Craidd
Cafodd Mark ei annog i weithio yn y sector gan ffrind ar ôl colli diddordeb yn ei waith fel pobydd. Symudodd ymlaen yn gyflym o waith cymorth i hyfforddi staff newydd, ac yn ddiweddar cwblhaodd ddiploma mewn gofal i gynnig cymorth mwy uniongyrchol i oedolion sydd ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl.
Darren Mutter
Pennaeth Gwasanaethau Plant
Ar ôl hyfforddi fel gweithiwr cymdeithasol bron i 20 mlynedd yn ôl, mae Darren bellach yn gweithio fel uwch reolwr gwasanaethau plant i Gyngor Sir Penfro. Gall ei gyfrifoldebau o ddydd i ddydd fod yn heriol ond mae’n gwybod ei fod yn gwneud gwahaniaeth drwy wasanaethu pobl yn ei gymuned.
Abbi-Lee Davies
Pennaeth Gwasanaeth
Mae Abbi-Lee wedi bod yn gweithio yn M&D Care ers saith mlynedd. Dechreuodd fel gweithiwr cymorth cyn cwblhau cynllun Rheolwr Dan Hyfforddiant cyflym, gan ennill ei chymwysterau wrth weithio. Mae hi nawr yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r cartrefi preswyl yn ne-orllewin Cymru.
Jennifer England
Gweithiwr gofal
Mae Jennifer yn gweithio i HomeInstead Senior Care yng Nghaerdydd lle mae pob diwrnod yn wahanol. Mae ei rôl yn amrywio o gleient i gleient, o’u helpu i godi yn y bore i baratoi eu bwyd a rhoi meddyginiaeth.
Gareth Smitham
Hyfforddwr Cyfrifiaduron
Mae rôl Gareth yn ymwneud â helpu pobl i fagu hyder a chyflawni unrhyw nodau sydd ganddynt yn y maes TG a chyfrifiaduron. Arferai Gareth weithio mewn Peirianneg, ond mae bellach yn Hyfforddwr Cyfrifiaduron yng Nghanolfan Adnoddau Bro Abertawe sy’n cynnig cefnogaeth i oedolion ag anableddau corfforol.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.