Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

02 Mawrth 2022

Gitarydd o Gymru yn rhoi benthyg cân i Gofalwn Cymru

Mae Callum Alexander Bromage yn byw bywyd prysur. Yn ystod y dydd, mae’r dyn ifanc 24 oed o Abertawe yn chwarae gitâr arweiniol mewn band sy’n dechrau torri trwy’r sîn ar hyn o bryd – band sydd eisoes wedi gweithio gyda chynhyrchwyr sydd wedi ennill gwobrau Grammy.

Ond mae Callum hefyd yn rhoi ei amser i rôl bwysig arall, yn gofalu am ei frawd Jordan, sydd ag anawsterau dysgu ac sy’n methu â chwblhau tasgau sylfaenol bob dydd.

Mae Callum wedi gofalu am ei frawd yn anffurfiol ers yn blant ond ers ei ben-blwydd yn 18 oed mae wedi gwneud hynny yn broffesiynol.

Mae rhoi sylw i anghenion Jordan yn ail natur i Callum, ac mae wedi gweld drosto’i hun bwysigrwydd gofalwyr a’r gwahaniaeth y gallant ei wneud i fywydau pobl.

Eglura Callum:

“Mae fy mrawd yn y bôn fel plentyn newydd-anedig. Nid yw’n gallu cyfathrebu ac mae angen ei fwydo a’i newid.

“Ers o’n i’n fach, rydyn ni bob amser wedi cael gofalwyr yn dod i mewn ac allan o’r tŷ felly mae bob amser wedi bod yn normal i mi, roedd yn wych troi’n 18 er mwyn i mi allu dod yn ofalwr proffesiynol.

“Mae gen i a fy mrawd fond cryf a dwi’n gwybod sut i wneud iddo deimlo’n gyfforddus felly mae’n bleser mawr gofalu amdano.”

 

Ac am y rheswm hwn roedd ei fand ‘The Now’ yn falch iawn pan gysylltodd Gofalwn Cymru â nhw i ofyn am ganiatâd i gynnwys eu cân ddiweddaraf ‘Loosen Up’ yn eu hymgyrch deledu newydd, a fydd yn cael ei darlledu ar deledu daearol heno.

Mae’r hysbyseb yn dangos dyn ifanc yn cymryd ei gamau cyntaf tuag at brentisiaeth mewn gofal. Mae’n amlygu’r byd o bosibilrwydd y gall prentisiaeth mewn gofal ei fforddio i bobl ifanc, yr amrywiaeth yn y rôl a’r ystod o bobl sy’n elwa o’r gwaith.

Ym mis Medi 2021, roedd 31,395 o brentisiaethau yng Nghymru – 25% ohonynt mewn iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n golygu mai hwn oedd y sector mwyaf ar gyfer prentisiaethau.

 

Meddai Callum:

“Rwyf mor falch o fod yn rhan o ymgyrch wych sy’n codi ymwybyddiaeth o bobl mewn gofal. Mae gweithio mewn amgylchedd mor gyffyrddus yn rhoi boddhad ac yn fuddiol iawn. Rwy’n meddwl y gall yr hysbyseb argyhoeddi pobl i fanteisio ar gyfle mor werth chweil.

“Rwyf wir yn argymell pobl ifanc i fanteisio ar gyfle mor unigryw a gwerth chweil mewn gofal.”

 

Dywed Andrew Bell Rheolwr Rhaglen o Gofalwn Cymru:

‘Roeddem wrth ein bodd pan gytunodd The Now i ni ddefnyddio’u cân, gan ei bod yn wirioneddol adlewyrchu’r egni a’r brwdfrydedd y mae llawer o’n prentisiaid gofal yn eu rhoi i’r sector. Mae’n fwy addas fyth bod gan Callum brofiad personol o ofalu am ei frawd ac mae’n teimlo’n iawn bod The Now a Gofalwn Cymru wedi gallu dod at ei gilydd ar gyfer yr ymgyrch bwysig hon.’

Gwrandewch ar gân y band “Loosen Up” ar ein tudalen prentisiaeth.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.