Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

21 Awst 2019

Gweithiwr cymdeithasol o Sir Fôn yw enillydd cyntaf y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg

Mae Sian Morgan, gweithiwr cymdeithasol o Gyngor Sir Ynys Môn, wedi’i henwi fel enillydd cyntaf y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg mewn seremoni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Mae’r wobr yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr gofal cyflogedig sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n darparu gofal rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gall y gweithiwr fod yn siarad Cymraeg yn rhugl, siarad ychydig neu’n dysgu, cyn belled â’i fod yn defnyddio’r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth.

Roedd Sian yn un o chwe gweithiwr a gyrhaeddodd rownd derfynol y wobr ac fe’i dewiswyd yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus, a welodd mwy na 850 o bobl yn pleidleisio.

Enwebwyd Sian, sy’n rhugl yn y Gymraeg, gan ei rheolwr llinell Dawn Hutchinson oherwydd y gwahaniaeth y mae hi wedi’i gwneud i fywydau’r bobl y mae’n eu cefnogi ar Ynys Môn.

Trwy gyfathrebu â’r rhai y mae’n eu cefnogi yn eu hiaith gyntaf a thrwy ddefnyddio’r dafodiaith leol, mae Sian wedi helpu teuluoedd i rannu eu profiadau, teimlo eu bod yn cael eu deall a theimlo’n llai ynysig.

Derbyniodd Sian ei gwobr mewn person yn y seremoni yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Derbyniodd y pum gweithiwr arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol cymeradwyaeth uchel am eu gwaith rhagorol yn darparu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma nhw:

  • Keri Davies, sy’n gweithio ym Meithrinfa a Chyn-ysgol Abacus yn Abertawe
  • Carol Evans, sy’n gweithio yn Tereen Ltd yng Nghonwy
  • Catrin Owen, sy’n gweithio yn Akari Care yn Llanrwst
  • Steve Roberts, sy’n gweithio yn Calon Lan Community Care yn Llanelwy
  • Kirsty Ward, sy’n gweithio i wasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Sirol Bwrdeistref Caerffili.

Mynychwyd y seremoni gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, Jenny Williams, Cyfarwyddwr Strategol Gofal Cymdeithasol ac Addysg yng Nghyngor Sirol Bwrdeistref Conwy, Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru Mick Giannasi CBE, ac y Prif Weithredwr Sue Evans.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.