Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

20 Ionawr 2022

Gwirfoddoli mewn cartrefi gofal

Sut gall gwirfoddolwyr ychwanegu at ansawdd bywyd preswylwyr a theuluoedd, yn ogystal â chefnogi staff cartrefi gofal?

Mae cartrefi gofal yng Nghymru  wedi bod yn gweithredu o dan bwysau aruthrol, oherwydd cyfyngiadau sy’n ymwneud â Covid, gydag ychydig iawn o adnoddau, staffio annigonol, cyfyngu ymweliadau a mwy o achosion o salwch a marwolaethau.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae dau brosiect peilot wedi bod yn datblygu gwirfoddoli mewn cartrefi gofal, gyda’r nod o ddarparu cymorth yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.

Gwnaeth Age Cymru weithio gyda saith cartref gofal ledled Cymru i ddatblygu gwirfoddoli, gyda’r bwriad penodol cychwynnol o alluogi ymweliadau yn ystod pandemig Covid.

Gwnaeth Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC) weithio gydag adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint i recriwtio a chysylltu gwirfoddolwyr â chartrefi gofal ar hyd a lled y sir.

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CgGC) yn cynnal digwyddiad “Gwirfoddoli mewn cartrefi gofal – heriau a phosibiliadau” ar 26 Ionawr rhwng 2-3:30pm i rannu:

  • Sut y daeth y prosiectau hyn i fod
  • Yr heriau y gwnaethant eu hwynebu
  • Yr hyn sydd wedi’i ddysgu a pha adnoddau y gellir eu rhannu
  • Y cyfleoedd a’r potensial i ddatblygu gwirfoddoli’n fwy eang o fewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Dewch a’ch profiadau a’ch mewnwelediadau eich hun i gyfrannu at y drafodaeth bwysig hon, cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.