Fel Cydgysylltydd Gwasanaethau Gofal Cartref, byddwch yn cydlynu gwaith tîm o Weithwyr Gofal Cartref ac Uwch Weithwyr Gofal Cartref.
Byddwch yn cynllunio ac yn dyrannu ymweliadau cartref i Weithiwr Gofal Cartref/ Uwch Weithiwr Gofal Cartref priodol, gan wneud yn siŵr bod sgiliau a nodweddion y gweithiwr yn cyfateb yn agos i rai'r unigolyn. Byddwch hefyd yn ymateb i newidiadau byr rybudd i gynlluniau a rotas, gan wneud yn siŵr bod pawb y mae hyn yn effeithio arnynt yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Byddwch yn gwneud yn siŵr bod rotas ac amserlenni gwaith yn cael eu trefnu a'u cynllunio i roi digon o amser i staff ymweld â phobl, a theithio rhwng gwahanol gartrefi. Byddwch yn cysylltu ag aelodau teuluol a gweithwyr proffesiynol eraill.
Byddwch yn gyfrifol am gadw cofnodion cywir, gan ddangos trefn a sylw trylwyr i fanylion.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Brwdfrydedd dros weithio gyda phobl
- Sgiliau cyfathrebu da
- Cydymdeimlad a thosturi
- Y gallu i feithrin perthnasoedd dibynadwy
- Y gallu i fod yn aelod da o dîm
- Sgiliau trefnu da
- Hyblygrwydd
- Y gallu i gadw cofnodion cywir
- Cadernid
- Cymhelliant a phenderfyniad
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd heriol a di-ddal
- Agwedd agored a chynhwysol
- Y gallu i gyfeirio aelodau eraill o'r tîm
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.