fbpx
Skip to main content

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol


Fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwch yn gyfrifol am y gwasanaeth, gan ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol. Byddwch yn sicrhau darpariaeth gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer plant, teuluoedd a phobl hŷn.

Gan weithio gyda Penaethiaid Gwasanaeth, i sicrhau bod trefniadau diogelu effeithiol ar waith, byddwch yn comisiynu, datblygu a darparu gwasanaethau a fydd yn gwella canlyniadau ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth. Byddwch yn ystyried goblygiadau eich penderfyniadau strategol a gweithredol ar adnoddau dynol ac ariannol.

Byddwch yn darparu arweinyddiaeth, arweiniad a chymorth i staff, gan fagu hyder a gwydnwch. Byddwch yn sicrhau bod staff yn cydymffurfio â pholisïau, deddfwriaeth a rheoliadau.

Chi fydd llefarydd y sefydliad ar bob mater sy’n ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwch yn meithrin cysylltiadau effeithiol gyda’r wasg, gwleidyddion, asiantaethau a sefydliadau.

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, byddwch angen:

  • Dealltwriaeth drylwyr o’r gofynion statudol ar Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru
  • Gwybodaeth gyflawn am ddeddfwriaeth berthnasol
  • Sgiliau rheoli ac arwain cadarn ac effeithiol
  • Ffocws ar reoli a darparu perfformiad
  • Sgiliau rheoli newid
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
  • Agwedd hyblyg at waith
  • Y gallu i ddangos empathi a chydbwyso gwahanol safbwyntiau proffesiynol
  • Y gallu i fod yn greadigol a chanolbwyntio ar atebion
  • Y gallu i feithrin cysylltiadau effeithiol a datblygu enw da
  • Y galluogi i rymuso timau ac unigolion
  • Dull a gaiff ei lywio gan dystiolaeth
  • Y gallu i addasu i amgylchiadau sy’n newid
  • Gwydnwch a’r gallu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd
  • Y gallu i feddwl yn feirniadol
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser da
  • Llythrennedd cyfrifiadurol

 

Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs