Cynghorydd Pobl Ifanc
Fel Cynghorydd Pobl Ifanc, byddwch yn gweithio gyda phlant 14 oed a hŷn i gefnogi eu hannibyniaeth, eu gwydnwch a’u gallu i gadw eu hunain yn ddiogel.
Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi pobl ifanc mewn gofal neu sy’n gadael gofal i bontio yn llwyddiannus i fyd oedolion.
Byddwch yn gweithio gyda phlant, oedolion, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Gallai’r rôl hon gynnwys gweithio gydag unigolion yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain, canolfannau dydd, cartrefi preswyl, ysgolion, ysbytai a sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill.
Byddwch yn gyfrifol am gwblhau gwaith papur ac am ddiweddaru cofnodion.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
- Gallu gwrando’n dda
- Dull hyblyg o weithio
- Y gallu i ddangos empathi
- Y gallu i feithrin cysylltiadau effeithiol a datblygu enw da
- Y gallu i fod yn greadigol a chanolbwyntio ar ddatrysiadau
- Natur ddoeth, ofalgar ac amyneddgar
- Agwedd anfeirniadol
- Gwydnwch a’r gallu i ddelio â sefyllfaoedd anodd
- Sgiliau rheoli amser a gweinyddu da
- Llythrennedd cyfrifiadurol
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.