Cynorthwyydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Fel Cynorthwyydd Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill i hyrwyddo canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y person i unigolion ag anghenion gofal a chymorth ac mewn cymunedau. Enw arall ar y swydd hon yw ‘Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol’.
Efallai y byddwch yn rhannu gwybodaeth a chyngor gydag unigolion drwy eu hasesiad, gwaith cynllunio, darparu gwasanaethau neu gymorth a chamau adolygu’r gwaith.
Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl a chymunedau sydd angen gofal a chymorth. Byddwch yn cael eich rhoi mewn tîm penodol, yn gweithio gyda: phobl hŷn, pobl ag anableddau neu broblemau iechyd meddwl, plant a’u teuluoedd neu ofalwyr.
Gall y swydd hon gynnwys gweithio gydag unigolion yn eu cartrefi a’u cymunedau, canolfannau dydd, cartrefi preswyl, ysgolion, ysbytai a sefydliadau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol eraill.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
- Bod yn wrandäwr da
- Dull hyblyg o weithio
- Y gallu i gydymdeimlo
- Y gallu i feithrin cysylltiadau effeithiol a datblygu perthynas
- Y gallu i fod yn greadigol a chanolbwyntio ar atebion
- Natur bwyllog, ofalgar ac amyneddgar
- Agwedd anfeirniadol
- Gwydnwch a’r gallu i ymdrin â sefyllfaoedd anodd
- Sgiliau rheoli amser a gweinyddu da
- Sgiliau cyfrifiadurol
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Name : Linda Roberts
Overview :
Mae Linda yn Weithiwr Cymorth o fewn y tîm gwasanaethau cymdeithasol i blant, lle mae'n cefnogi teuluoedd sydd wedi cael anawsterau.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.