fbpx
Skip to main content

Dirprwy Reolwr Gofal Cartref


Fel Dirprwy Reolwr Gofal Cartref, byddwch yn helpu Rheolwr y gwasanaeth i wneud yn siŵr ei fod yn rhedeg yn effeithiol.

Gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, byddwch yn gweithio gyda phobl y mae angen gofal a chymorth arnynt i fodloni eu hanghenion corfforol, cymdeithasol, emosiynol a diwylliannol. Hefyd bydd angen i chi feithrin perthynas waith dda â theuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n rhoi cymorth i'r unigolyn.

Gan weithio fel rhan o dîm, byddwch yn arwain ac yn goruchwylio staff, ac yn helpu'r tîm rheoli i wneud yn siŵr bod y gwaith dydd i ddydd yn rhedeg mor ddidrafferth â phosib. Byddwch yn llenwi gwaith papur ac yn cadw cofnodion cyfredol i bawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:

  • Brwdfrydedd dros weithio gyda phobl
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Cydymdeimlad a thosturi
  • Y gallu i feithrin perthnasoedd dibynadwy
  • Y gallu i fod yn aelod da o dîm
  • Sgiliau trefnu da
  • Hyblygrwydd
  • Y gallu i gadw cofnodion cywir
  • Cadernid
  • Cymhelliant a phenderfyniad
  • Y gallu i addasu i sefyllfaoedd heriol a di-ddal
  • Agwedd agored a chynhwysol
  • Y gallu i gyfeirio aelodau eraill o'r tîm
  • Sgiliau arwain a rheoli

Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.

Name : Mike Williams, Gweithiwr Gofal Cartref
Overview : Mae Mike wedi gweithio mewn gofal ers 12 mlynedd, ac mae ei angerdd yn amlwg i bawb. Yn siaradwr Cymraeg brwd, mae Mike yn credu bod iaith yn chwarae rhan bwysig yn y lleoliad gofal.

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs