Dirprwy Reolwr Gofal Preswyl i Blant
Fel Dirprwy Reolwr Gofal Preswyl i Blant, bydd gennych wybodaeth drylwyr o’r cynllun gofal ar gyfer y plant a phobl ifanc sy’n byw yn y cartref.
Byddwch yn darparu lle caredig, gofalgar a llawn hwyl i fyw ynddo, gan helpu’r plant a’r bobl ifanc i ffynnu. Byddwch yn eu helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol a rhoi synnwyr o sefydlogrwydd a diogelwch iddynt.
Byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr i ddarparu arweiniad, canllawiau a chymorth i staff, gan sicrhau bod gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cael eu cyflawni. Byddwch yn sicrhau bod staff yn cydymffurfio â pholisïau, deddfwriaethau a rheoliadau cwmni, a byddwch yn sicrhau eich bod yn cyflawni cynlluniau gofal ac yn cwrdd â safonau gofal.
Byddwch yn goruchwylio Gweithwyr Gofal Preswyl Plant ac Uwch Weithwyr Gofal Preswyl Plant. Byddwch hefyd yn mynychu cyfarfodydd gyda lleoliadau addysgol, yr Heddlu, Gweithwyr Cymdeithasol ac asiantaethau eraill.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Mwynhau gweithio gyda phlant a phobl ifanc
- Gweithio’n dda mewn tîm
- Cyfathrebu’n dda, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
- Natur ofalgar, gefnogol ac amyneddgar
- Y gallu i ddatblygu cydberthnasau cadarnhaol
- Cydnerthedd
- Cymhelliant a phenderfyniad
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd anodd a newidiol
- Dull agored a chynhwysol
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd anodd a newidiol
- Y gallu i fod yn gynhwysol gyda phob plentyn a pherson ifanc
- Y gallu i gymryd arweiniad gan uwch weithwyr
- Y gallu i roi arweiniad i aelodau eraill o’r tîm
- Sgiliau arwain a rheoli
- Hyder yng nghwmni plant, pobl ifanc ac oedolion
- Sylw i fanylder, gan sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei chofnodi yn eich holl waith papur
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.