Gwarchodwr Plant
Fel Gwarchodwr Plant cofrestredig, byddwch yn darparu gofal ar gyfer plant dan 12 oed am fwy na dwy awr y dydd yn eich cartref eich hun.
Byddwch yn hunangyflogedig ac yn gyfrifol am redeg eich busnes eich hun, a byddwch hefyd yn bodloni gofynion cyfreithiol. Mae angen i chi fod yn gryf eich cymhelliant a bydd disgwyl i chi baratoi gwaith papur.
Byddwch yn darparu amgylchedd diogel, llawn hwyl ac ysgogol ac yn cefnogi gweithgareddau chwarae, dysgu a datblygu plant drwy weithgareddau a phrofiadau.
I lwyddo yn y rôl hon, byddwch angen:
- Mwynhau gweithio gyda phlant
- Natur ofalgar ac amyneddgar
- Dull hyblyg a’r gallu i addasu
- Sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
- Dychymyg a chreadigrwydd
Am fwy o wybodaeth am gymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Am ragor o wybodaeth am fod yn Warchodwr Plant yng Nghymru, cysylltwch â PACEY Cymru.
Enw : Astudiaeth Achos Gwarchodwr Plant – Amanda Calloway
Trosolwg :
Ar ôl cael plant, roedd Amanda eisiau symud 'mlaen o’i gyrfa mewn bancio. Dewisodd fod yn warchodwr plant oherwydd yr hyblygrwydd. Ochr yn ochr â’i gyrfa fel gwarchodwr plant, gan weithio o gartref, astudiodd Amanda am radd yn y Blynyddoedd Cynnar a chymhwyster rheoli Lefel 5.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.