Gweithiwr Cymdeithasol
Fel Gweithiwr Cymdeithasol, eich nod chi fydd gwella bywydau pobl rydych chi’n gweithio gyda nhw. Byddwch chi’n cefnogi pobl drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a’u lles.
Byddwch chi’n gweithio gydag unigolion, gan gefnogi eu perthnasoedd â’u teuluoedd, grwpiau a chysylltiadau â’u cymuned. Byddwch chi’n eu helpu i adnabod eu cryfderau, datblygu eu sgiliau a gweithio ar broblemau neu heriau y gallent fod yn eu hwynebu.
Byddwch yn meithrin perthnasoedd ag unigolion, teuluoedd a gofalwyr i helpu pobl i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw. Byddwch yn cynnig gwybodaeth a chyngor i unigolion a gweithwyr proffesiynol eraill.
Byddwch yn cynnal asesiadau i ddeall a oes angen gofal a chymorth ar bobl ac yn gweithio gydag unigolion, gofalwyr a theuluoedd i lunio ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth. Byddwch yn cadw cofnodion, yn ysgrifennu adroddiadau, yn mynd i’r llys ac yn goruchwylio aelodau o’r tîm.
Byddwch yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill, gan arwain neu gefnogi eraill i sicrhau bod plant ac oedolion yn ddiogel rhagddynt eu hunain ac eraill, gan weithio yn unol â fframwaith cyfreithiol clir a gweithdrefnau Cymru gyfan.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
- Ymagwedd hyblyg at waith a’r gallu i weithio’n dda mewn tîm
- Y gallu i feddwl yn feirniadol a bod yn greadigol a datrys problemau
- Y gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol a datblygu cysylltiad
- Y gallu i addasu i amgylchiadau sy’n newid
- Pwyll, cydymdeimlad ac amynedd
- Agwedd anfeirniadol
- Tosturi, cadernid a pharodrwydd i ddelio â sefyllfaoedd anodd
- Sgiliau gweinyddu a rheoli amser da
- Llythrennedd cyfrifiadurol
- Y gallu i ddeall a chyflawni dyletswyddau cyfreithiol
- Y gallu i wneud penderfyniadau’n annibynnol
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Enw : Helen Dobson
Trosolwg :
Roedd Helen yn athrawes gyflenwi mewn ysgolion cynradd am ddeng mlynedd ar hugain, ond un diwrnod penderfynodd ei bod eisiau gwneud mwy i wneud gwahaniaeth, felly gwnaeth ei MSc mewn Gofal Cymdeithasol a daeth yn Weithiwr Cymdeithasol.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.