fbpx
Skip to main content

Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant


Fel Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc, a darparu gofal sy’n canolbwyntio ar y person.

Byddwch yn darparu lle caredig, gofalgar a llawn hwyl i fyw ynddo, gan helpu’r plant a’r bobl ifanc i ffynnu. Byddwch yn eu helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol a rhoi synnwyr o sefydlogrwydd a diogelwch iddynt.

I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:

  • Mwynhau gweithio gyda phlant a phobl ifanc
  • Gweithio’n dda mewn tîm
  • Cyfathrebu’n dda, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
  • Natur ofalgar, gefnogol ac amyneddgar
  • Y gallu i ddatblygu cydberthnasau cadarnhaol
  • Cydnerthedd
  • Cymhelliant a phenderfyniad
  • Y gallu i addasu i sefyllfaoedd anodd a newidiol
  • Dull agored a chynhwysol
  • Y gallu i fod yn gynhwysol gyda phob plentyn a pherson ifanc
  • Y gallu i roi arweiniad i aelodau eraill o’r tîm
  • Y gallu i gymryd arweiniad gan uwch weithwyr
  • Hyder yng nghwmni plant, pobl ifanc ac oedolion
  • Sylw i fanylder, gan sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei chofnodi yn eich holl waith papur

Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.

Name : Astudiaeth Achos Gweithiwr Gofal Plant Preswyl – Peter Hornyik
Overview : Gwneud gwahaniaeth i ddatblygiad plant yw blaenoriaeth Peter. Mae’n frwd dros ddod â llawenydd i fywydau plant difreintiedig. Hyfforddodd Peter, sydd yn wreiddiol o Hwngari, fel athro cynradd cyn symud i weithio gyda phlant mewn gofal cymdeithasol.

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs