Nani
Fel Nani, byddwch yn gofalu am un neu fwo o blant mewn cartref teuluol fel gwasanaeth.
Gallai teulu eich cyflogi mewn gwahanol ffyrdd, naill ai eich bod yn byw gyda nhw a chael eich llety eich hun yng nghartref y teulu, neu yn byw yn annibynnol os nad oes angen byw yn nghartre’r teulu.
Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â’r teulu gan gytuno ar y telerau cyflogaeth, bydd hyn yn amrywio yn ôl anghenion unigol ac, os oes angen, paratoi prydau.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Natur ofalgar ac amyneddgar
- Sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
- Dychymyg a chreadigrwydd
Am fwy o wybodaeth am gymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Am ragor o wybodaeth am fod yn Nani yng Nghymru, cysylltwch â PACEY Cymru.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.