Fel y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, byddwch yn pennu cyfeiriad, amcanion a nodau strategol, gan sicrhau asesu proffesiynol o ansawdd uchel, cynllunio gofal a darpariaeth gwasanaeth ar gyfer oedolion a phobl hŷn.
Byddwch yn arwain ar gynllunio, datblygu a rheoli gwasanaethau a fydd yn gwella canlyniadau ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth. Efallai y byddwch hefyd yn dirprwyo ar gyfer y Cyfarwyddwr Statudol.
Byddwch yn sicrhau agwedd gynhwysfawr at ymarfer proffesiynol sy’n diogelu oedolion bregus. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac asiantaethau partner i ddiogelu pobl a allai fod mewn perygl.
Byddwch yn rhoi arweiniad, canllawiau a chymorth i staff, gan fagu hyder a gwydnwch. Byddwch yn sicrhau bod staff yn cydymffurfio â pholisïau cwmni, deddfwriaeth a rheoliadau.
Byddwch yn gweithio gyda phartneriaid mewnol, rhanddeiliaid allanol a sefydliadau.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, byddwch angen:
- gwybodaeth am y ddeddfwriaeth berthnasol yng Nghymru
- dealltwriaeth o ymarfer proffesiynol a gwahanol agweddau ar ddiogelu a grymuso
- gwybodaeth am arferion gorau a lle gellir cael gafael ar dystiolaeth
- sgiliau rheoli ac arwain
- sgiliau rheoli newid a gwella
- sgiliau rheoli a rhyngbersonol rhagorol
- dull hyblyg o weithio
- y gallu i ddangos empathi a chydbwyso’r gwahanol safbwyntiau proffesiynol
- y gallu i fod yn greadigol a chanolbwyntio ar ddatrysiad
- y gallu i feithrin cysylltiadau effeithiol
- ffocws ar ddarparu gwasanaethau a pherfformiad
- y gallu i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
- y gallu i rymuso timau ac unigolion
- y gallu i addasu i amgylchiadau sy’n newid
- gwydnwch a’r gallu i ddelio â sefyllfaoedd anodd
- y gallu i feddwl yn feirniadol, gan ddefnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau
- sgiliau sefydliadol a rheoli amser da
- llythrennedd cyfrifiadurol.
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.