Pennaeth Gwasanaethau Plant
Fel y Pennaeth Gwasanaethau Plant, byddwch yn pennu cyfeiriad, amcanion a nodau strategol, gan sicrhau asesu proffesiynol o ansawdd uchel, cynllunio gofal a darpariaeth gwasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd.
Byddwch yn arwain ar gynllunio, datblygu a rheoli gwasanaethau a fydd yn gwella canlyniadau ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth. Efallai y byddwch hefyd yn dirprwyo ar gyfer y Cyfarwyddwr Statudol.
Byddwch yn sicrhau agwedd gynhwysfawr at ymarfer proffesiynol sy’n diogelu plant a phobl ifanc bregus. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac asiantaethau partner i ddiogelu pobl a allai fod mewn perygl.
Byddwch yn rhoi arweiniad, canllawiau a chymorth i staff, gan fagu hyder a gwydnwch. Byddwch yn sicrhau bod staff yn cydymffurfio â pholisïau cwmni, deddfwriaeth a rheoliadau.
Byddwch yn gweithio gyda phartneriaid mewnol, rhanddeiliaid allanol a sefydliadau.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, byddwch angen:
- gwybodaeth am y ddeddfwriaeth berthnasol yng Nghymru
- dealltwriaeth o ymarfer proffesiynol a gwahanol agweddau ar ddiogelu a grymuso
- gwybodaeth am arferion gorau a lle gellir cael gafael ar dystiolaeth
- sgiliau rheoli ac arwain
- sgiliau rheoli newid a gwella
- sgiliau rheoli a rhyngbersonol rhagorol
- dull hyblyg o weithio
- y gallu i ddangos empathi a chydbwyso’r gwahanol safbwyntiau proffesiynol
- y gallu i fod yn greadigol a chanolbwyntio ar ddatrysiad
- y gallu i feithrin cysylltiadau effeithiol
- ffocws ar ddarpariaeth gwasanaethau a pherfformiad
- y gallu i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
- y gallu i rymuso timau ac unigolion
- y gallu i addasu i amgylchiadau sy’n newid
- gwydnwch a’r gallu i ddelio â sefyllfaoedd anodd
- y gallu i feddwl yn feirniadol, gan ddefnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau
- sgiliau sefydliadol a rheoli amser da
- llythrennedd cyfrifiadurol.
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Name : Darren Mutter
Overview :
Ar ôl hyfforddi fel gweithiwr cymdeithasol bron i 20 mlynedd yn ôl, mae Darren bellach yn gweithio fel uwch reolwr gwasanaethau plant i Gyngor Sir Penfro. Gall ei gyfrifoldebau o ddydd i ddydd fod yn heriol ond mae’n gwybod ei fod yn gwneud gwahaniaeth drwy wasanaethu pobl yn ei gymuned.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.