Rheolwr Cartref Gofal
Fel Rheolwr Cartref Gofal, byddwch yn pennu cyfeiriad gweithredol a threfnu bod y cartref yn gweithredu’n effeithiol.
Byddwch yn gyfrifol am ethos cyffredinol a diwylliant y cartref a’ch cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod gan y preswylwyr a’r staff le cartrefol, croesawgar a diogel i fyw a gweithio ynddo.
Bydd gennych wybodaeth drylwyr am gynllun gofal pob preswylydd. Gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, byddwch yn cefnogi pob preswylydd gyda’u hanghenion corfforol, cymdeithasol, emosiynol a diwylliannol.
Byddwch yn darparu arweiniad, canllawiau a chymorth i staff. Byddwch yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â pholisïau, deddfwriaethau a rheoliadau cwmni. Byddwch yn goruchwylio Dirprwy Reolwyr, Gweithwyr Cartref Gofal ac Uwch Weithwyr Cartref Gofal.
Byddwch yn gwbl gyfrifol am y cartref gofal a bydd angen i chi gyfathrebu yn effeithiol ag asiantaethau allanol i sicrhau bod y cartref yn cwrdd â safonau gofal perthnasol. Byddwch yn gyfrifol am wneud gwaith papur a diweddaru cofnodion ar gyfer y preswylwyr ac unrhyw ddogfennaeth sy’n angenrheidiol. Byddwch hefyd yn rheoli prosesau recriwtio a disgyblu.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Brwdfrydedd dros ofalu am bobl hŷn a’u teuluoedd
- Sgiliau cyfathrebu da
- Empathi a thrugaredd
- Y gallu i feithrin cydberthnasau llawn ymddiriedaeth
- Gweithio’n dda mewn tîm
- Sgiliau trefnu
- Hyblygrwydd
- Y gallu i wneud a chynnal cofnodion cywir
- Cydnerthedd
- Cymhelliant a phenderfyniad
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd anodd a newidiol
- Dull agored a chynhwysol
- Sgiliau arwain a rheoli
- Y gallu i roi cyfeiriad a goruchwylio aelodau eraill o’r tîm
- Dealltwriaeth lawn o ofynion cyfreithiol a rheoliadau sy’n berthnasol i’r rôl
- Sylw i fanylder, gan sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei chofnodi ym mhob gwaith papur.
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Enw : Wendy Ticehurst, Cartref Gofal Llys Brocastle
Trosolwg :
Os wyt ti'n berson naturiol gofalgar, gydag empathi, gall gyrfa mewn gofal cymdeithasol dy helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Diolch Cartref Gofal Llys Brocastle.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.