Fel Rheolwr Gofal Cartref, byddwch yn pennu'r cyfeiriad gweithredol ac yn trefnu'r gwaith o redeg y gwasanaeth yn effeithiol. Byddwch yn gwneud yn siŵr bod staff yn darparu'r gofal a'r cymorth gorau posib.
Gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, byddwch yn gweithio gyda phobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i ddatblygu cynlluniau gofal sy'n bodloni anghenion corfforol, cymdeithasol, emosiynol a diwylliannol pobl. Byddwch yn meithrin perthynas waith dda â theuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n rhoi cymorth i'r unigolyn.
Byddwch yn arwain staff yn effeithiol ac yn gwneud gwaith goruchwylio gyda Dirprwy Reolwyr Gofal Cartref, Gweithwyr Gofal Cartref, ac Uwch Weithwyr Gofal Cartref. Byddwch yn cyfathrebu â'r aelodau perthnasol o staff yn eich tîm i'w helpu i ddeall eu rôl yn darparu gofal a chymorth.
Byddwch yn llenwi gwaith papur ac yn cadw cofnodion cyfredol, gan gynnwys dogfennaeth reoleiddiol hanfodol.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Brwdfrydedd dros weithio gyda phobl
- Sgiliau cyfathrebu da
- Cydymdeimlad a thosturi
- Y gallu i feithrin perthnasoedd dibynadwy
- Y gallu i fod yn aelod da o dîm
- Sgiliau trefnu da
- Hyblygrwydd
- Y gallu i gadw cofnodion cywir
- Cadernid
- Cymhelliant a phenderfyniad
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd heriol a di-ddal
- Agwedd agored a chynhwysol
- Sgiliau arwain a rheoli
- Y gallu i gyfeirio a goruchwylio aelodau eraill o'r tîm
- Dealltwriaeth lawn o'r rheoliadau a'r gofynion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r rôl
- Y gallu i roi sylw trylwyr i fanylion, gan wneud yn siŵr bod y wybodaeth gywir yn cael ei chofnodi yn yr holl waith papur
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.