Rheolwr Gofal Dydd Sesiynol
Fel Rheolwr Gofal Dydd Sesiynol byddwch yn gyfrifol am ansawdd, darpariaeth a chynaliadwyedd eich lleoliad yn gyffredinol.
Mae'r rôl yn golygu cydweithio â'ch tîm, plant a theuluoedd i greu amgylchedd diogel a chynhwysol o ansawdd uchel i fodloni anghenion y plant sy'n mynychu'r lleoliad.
Byddwch yn gyfrifol am redeg y lleoliad o ddydd i ddydd, gan ddarparu arweiniad, goruchwyliaeth a chymorth i'r staff.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Sgiliau arwain a rheoli
- Natur ofalgar ac amyneddgar
- Sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
- Y gallu i feithrin perthynas dda gydag eraill
- Dychymyg a chreadigrwydd
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd sy'n newid
- Y gallu i gynnwys pob plentyn
- Hyder yng nghwmni plant ac oedolion
- Cynllunio a chyllidebu
- Gweithio mewn partneriaeth
- Cydymffurfio â'r safonau a rheoleiddiadau gofynnol
- Y gallu i roi sylw i fanylion a chwblhau unrhyw ddogfennaeth angenrheidiol
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Enw : Helen Greenwood
Trosolwg :
Mae Helen yn Arweinydd Meithrinfa yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl ac mae hi’n frwdfrydig dros addysgu’r genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol i helpu’r plant i ddysgu, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn amgylchedd diogel ac addas i bawb.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.