Rheolwr Gofal Preswyl i Blant
Fel Rheolwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn pennu cyfeiriad gweithredol y cartref a threfnu ei fod yn gweithredu’n effeithiol.
Byddwch yn darparu lle caredig, gofalgar a llawn hwyl i fyw ynddo, gan helpu’r plant a phobl ifanc i ffynnu.
Bydd gennych chi wybodaeth drylwyr o’r cynllun gofal ar gyfer y plant a’r bobl ifanc sy’n byw yn y cartref a byddwch yn sicrhau bod staff yn gofalu amdanynt yn y ffordd orau bosibl.
Byddwch yn rhoi arweiniad, canllawiau a chymorth i staff. Byddwch yn sicrhau bod staff yn cydymffurfio â pholisïau, deddfwriaethau a rheoliadau’r cwmni, a byddwch yn sicrhau eich bod yn cyflawni cynlluniau gofal ac yn cwrdd â safonau gofal.
Byddwch yn goruchwylio Dirprwy Reolwyr Gofal Preswyl Plant ac o bosibl Gweithwyr Gofal Preswyl Plant ac Uwch Weithwyr Gofal Preswyl Plant. Byddwch hefyd yn mynychu cyfarfodydd gyda lleoliadau addysgol, yr Heddlu, Gweithwyr Cymdeithasol ac asiantaethau eraill.
Byddwch yn gyfrifol am wneud gwaith papur a diweddaru cofnodion ar gyfer y preswylwyr ac unrhyw ddogfennaeth reoleiddio sy’n angenrheidiol. Byddwch hefyd yn rheoli prosesau recriwtio a disgyblu.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Sgiliau arwain a rheoli
- Mwynhau gweithio gyda phlant a phobl ifanc
- Gweithio’n dda mewn tîm
- Cyfathrebu’n dda, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
- Natur ofalgar, gefnogol ac amyneddgar
- Y gallu i ddatblygu cydberthnasau cadarnhaol
- Cydnerthedd
- Cymhelliant a phenderfyniad
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd anodd a newidiol
- Dull agored a chynhwysol
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd anodd a newidiol
- Y gallu i fod yn gynhwysol gyda phob plentyn a pherson ifanc
- Y gallu i roi arweiniad a goruchwyliaeth i aelodau eraill o’r tîm
- Hyder yng nghwmni plant, pobl ifanc ac oedolion
- Sylw i fanylder, gan sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei chofnodi yn eich holl waith papur
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.