Rheolwr Gwasanaethau Maethu
Fel Rheolwr Gwasanaethau Maethu byddwch yn gyfrifol am arwain gwasanaeth o safon uchel sy’n rhoi sefydlogrwydd a diogelwch i blant a phobl ifanc sy’n byw i ffwrdd o’u cartref teuluol.
Mae rheolwyr maethu yn goruchwylio tîm ac yn recriwtio a chefnogi gofalwyr maeth. Mae hwn yn helpu gofalwyr maeth i ddarparu awyrgylch cartrefol sefydlog i’r plant a’r bobl ifanc maent yn gofalu amdanynt.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Sgiliau cyfathrebu da
- Y gallu i beidio â barnu
- Empathi
- Amynedd, cydnerthedd a sgiliau arsylwi
- Yr hyder i ddelio â sefyllfaoedd heriol a newidiol
- Y gallu i ddysgu o brofiadau ac adlewyrchu, a pharhau i ddatblygu ymarfer da
- Y gallu i oruchwylio a chefnogi pobl eraill
- Hyblygrwydd
- Sgiliau rheoli ac arwain
- Sgiliau cynllunio a gweinyddu
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.