Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol
Fel Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol, byddwch yn gyfrifol am reoli tîm gwaith cymdeithasol o ddydd i ddydd. Mae timau yn gallu gweithio gyda phlant, teuluoedd, y rhai â phroblemau iechyd meddwl neu bobl hŷn; efallai y byddant yn gweithio mewn cymunedau lleol neu yn swyddfeydd canolog y cyngor. Byddwch chi a’ch tîm yn gweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl sydd angen cymorth.
Byddwch yn darparu arweinyddiaeth, arweiniad a chymorth i dîm o weithwyr cymdeithasol, ac weithiau staff iechyd a gofal cymdeithasol eraill, gan eu helpu i fagu eu hyder a’u gwydnwch. Byddwch yn darparu arweiniad ac argymhellion, gan sicrhau bod y camau mwyaf priodol yn cael eu cymryd mewn ymateb i atgyfeiriadau a dderbynnir.
Byddwch yn goruchwylio staff yn rheolaidd, yn cynnal arfarniadau perfformiad ac yn cefnogi eu twf proffesiynol. Byddwch yn sicrhau hefyd fod staff yn cydymffurfio â pholisïau, deddfwriaeth a rheoliadau.
Byddwch yn rhoi cyngor i’r cyhoedd ac i weithwyr proffesiynol eraill. Byddwch yn cadeirio cyfarfodydd ac yn sicrhau bod cynlluniau a chofnodion ysgrifenedig yn gywir a chyfredol ar gyfer pob un o’r unigolion hynny y mae eich tîm yn eu cefnogi. Efallai y byddwch yn rheoli adnoddau a chyllidebau hefyd.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Sgiliau rheoli ac arwain, gan gynnwys goruchwylio a hyfforddi
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
- Ymagwedd hyblyg at waith a’r gallu i ymateb i flaenoriaethau sy’n gwrthdaro
- Y gallu i feddwl yn feirniadol a bod yn greadigol a chanolbwyntio ar atebion
- Y gallu i feithrin cysylltiadau effeithiol a datblygu perthynas â gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd
- Doethineb, empathi ac amynedd
- Agwedd anfeirniadol ac ymrwymiad i ymateb i bawb gydag ymdeimlad o degwch
- Trugaredd, gwydnwch a pharodrwydd i ymdrin â sefyllfaoedd anodd
- Sgiliau cyfrifiadurol
- Sgiliau gweinyddol, adrodd a rheoli amser da
- Sgiliau rheoli arian
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.